Ewch i’r prif gynnwys

Cylchlythyr Chwarter 1 2024

10 Ebrill 2024

IPA
IPA

Diweddariad Rheoli Ansawdd

Cawsom ymweliad Asesu Parhaus (Goruchwylio) ISO llwyddiannus gan archwiliwr allanol ym mis Mawrth, ac rydym yn falch ein bod wedi cadw ein hardystiad ISO 9001.

Mae hyn yn golygu bod ein system rheoli ansawdd yn parhau i ddangos ei gallu i gynnig gwasanaethau sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid a rheoliadau’n gyson. Ni yw’r unig Gyfleuster Aml-graidd yn y DU sydd â’r achrediad hwn, sy’n cefnogi cwsmeriaid ym Mhrifysgol Caerdydd a’r tu hwnt iddi.

Rydyn ni’n parhau i annog cwmnïau allanol ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd i gysylltu â ni am ein gwasanaethau a’n cynghorion ynghylch rheoli ansawdd.

Dadansoddi Llwybr Dyfeisgarwch (IPA) a Biowybodeg

Mae Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog (CBS) yn cynnig cyngor a hyfforddiant biowybodeg ar ystod o bynciau gan gynnwys dylunio prosiectau a storio a dadansoddi data. Ymunwch â'r Clinig Data dros Zoom, bob dydd Iau rhwng 11am a 12pm, i gael cymorth gan ein Biowybodegydd Craidd. Cysylltwch â ni i gael y ddolen i ymuno.

Diolch i bawb a ddaeth i’r hyfforddiant IPA diweddar gan Qiagen. Rydym yn gobeithio y bu’r sesiwn yn ddefnyddiol i chi.

Oeddech chi'n gwybod bod CBS hefyd yn cynnig trwyddedau IPA?

Byddwch yn talu cyfradd gystadleuol am drwydded, gan arbed llawer o arian i gymharu â phrynu trwydded yn uniongyrchol o Qiagen, ac nid oes cyfyngiad ar faint o weithiau y gallwch ei defnyddio yn ystod y flwyddyn.

I gael ragor o wybodaeth neu i sefydlu eich trwydded, cysylltwch â ni.

Eisiau dysgu am Cytometreg Lif yn eich rhanbarth?

Dewch i ymuno â Digwyddiad Cytomeg GW4 ddydd Iau 25 Ebrill ym Mhrifysgol Caerwysg.

Mae'r digwyddiad hwn yn nodi lansiad Canolfan Cytomeg Caerwysg (EXCC) a chyfarfod cyntaf Grŵp Cytometreg GW4, gan ddod â chymuned fywiog o arbenigwyr, ymchwilwyr ac arweinwyr diwydiant at ei gilydd.

Prif Ddarlith: "Effaith Cytomeg ar Ddarganfyddiadau mewn Gwyddoniaeth" gan yr Athro J Paul Robinson, arweinydd enwog mewn Cytometreg a Pheirianneg Fiofeddygol

Mae’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn wedi’i dargedu at ymchwilwyr ym mhrifysgolion yn rhanbarth GW4 ac mewn cwmnïau sydd wedi’u lleoli yn ardal GW4 gan gynnwys Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg.

Cliciwch ar y ddolen isod i ddarllen y rhaglen lawn, i weld y cynlluniau ar gyfer y diwrnod... ac i gadw eich lle!

O ran cytometreg lif, ydych chi'n gwybod am lyfryn Cytometreg Lif GW4?

Mae llyfryn newydd GW4 ar gael sy’n manylu ar yr holl adnoddau a rennir ym maes cytometreg lif sydd ar gael ledled rhanbarth GW4.

Offer sy’n cynnig arbenigedd technegol ategol ym mhrifysgolion GW4 (Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg) yw’r adnoddau a rennir. Gall ymchwilwyr ar draws GW4 a thu hwnt, gan gynnwys partneriaid masnachol, eu defnyddio. 

Cliciwch yma i lawrlwytho'r llyfryn a chael gwybod am yr hyn sydd ar gael i chi. Mwynhewch y darllen!

Mae eich adborth yn bwysig i ni

Rydyn ni eisoes wedi diweddaru ein harolwg i gasglu eich adborth, a hynny yn dilyn eich profiad o gyrchu ein gwasanaethau. Cadwch eich llygaid ar agor am y ddolen i’r Arolwg Adborth i Gwsmeriaid CBS yn eich e-byst. Gallwch chi hefyd gyrchu’r arolwg hwn drwy sganio’r Côd QR sydd ar y posteri gerllaw eich labordai, ar ein gwefan neu drwy ddilyn y ddolen isod.

Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi’r holl adborth a gawn, gan fod hyn yn ein helpu ni i wella ein gwasanaethau i’r dyfodol. Felly, rydyn ni’n ddiolchgar iawn ichi am roi pum munud o’ch amser i gwblhau’r arolwg hwn. Diolch o waelod calon.

Rhwydweithio drwy MediWales

Rydyn ni’n falch o fod yn aelodau unwaith eto o MediWales, Rhwydwaith Gwyddor Bywyd Cymru. Rydyn ni wedi croesawu gallu hyrwyddo CBS a Phrifysgol Caerdydd tra’n rhwydweithio i ddysgu am y cymorth, yr opsiynau cyllido a’r technolegau a’r tueddiadau yn ein rhanbarth a thu hwnt.

Yn ddiweddar, gadawon ni’r digwyddiad BioWales yn Llundain wedi ein calonogi gan yr holl gynnydd gwych sy’n cael ei wneud yng Nghymru; a hithau fel y mae o ran ei maint a’i hisadeiledd, mae gan Gymru botensial fawr i ddod yn esiampl ar gyfer mabwysiadu arloesedd a’i roi ar waith!

Hyfforddiant ar Dechnolegau Arbenigol

Diolch yn fawr i chi am ddod i’r cyrsiau RNAseq, Theori Cytometreg Llif, a FlowJo eleni.

Rydyn ni wrthi’n trefnu sesiynau hyfforddiant pellach fydd yn ymdrin â thechnolegau megis Biacore a Nanostring.

Byddwn yn cyhoeddi manylion digwyddiadau i ddod ar ein gwefan a Twitter, a bydd llawer ohonynt ar gael i ymchwilwyr mewnol ac allanol fel ei gilydd.

Ceir hefyd ystod o ddigwyddiadau hyfforddiant eraill sy’n cael eu trefnu gan gydweithwyr o bob rhan o Brifysgol Caerdydd. Mynnwch gip arnyn nhw isod (mae manylion cyswllt perthnasol hefyd wedi’u nodi wrth eu hymyl):
* Gweithdy Bionano - ddydd Iau 11 Ebrill (e-bostiwch yma am fanylion)
* Oxford Nanopore Technologies a 10x Genomics - ddydd Mercher 1 Mai (e-bostiwch yma am fanylion)
* Dosrannu’r Biowyddorau - ddydd Mawrth 11 Mehefin (e-bostiwch yma am fanylion)

Rhannu’r stori hon

Gallwch gael diweddariadau chwarterol gan y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.