Ewch i’r prif gynnwys

Pam na ddylai The Body Shop wedi methu mewn oes lle mae cwsmeriaid eisiau gweld brandiau’n ymgyrchu

11 Ebrill 2024

Mae Dr Zoe Lee, Darllenydd (Athro Cyswllt) mewn Marchnata yn Ysgol Busnes Caerdydd, wedi cyd-ysgrifennu erthygl yn The Conversation sy'n dadlau na ddylai The Body Shop, sy’n enghraifft fyd-eang o fanwerthu moesegol, fod wedi methu mewn oes lle mae ymgyrchu’n cael y fath sylw.

Yn yr erthygl, mae academyddion yn trin a thrafod methiant The Body Shop, gan nodi problemau fel pobl yn blino ar ymgyrchoedd, dirywiad yn newrder y brand, a methiant i  drawsnewid go iawn. Tynnir sylw hefyd at y modd y gallai The Body Shop adennill synnwyr o dreftadaeth y brand fel un sy’n ymgyrchu.

Darllenwch yr erthygl lawn yn The Conversation: The Body Shop shouldn’t have failed in an age when consumers want activism from their brands. Beth ddigwyddodd?

Mae'r erthygl yn defnyddio ymchwil o bapur gan Dr Zoe Lee ac academyddion o Brifysgol RMIT, Prifysgol Technoleg Auckland, a Phrifysgol Portsmouth. Darllenwch y papur llawn: From warmth to warrior: impacts of non-profit brand activism on brand bravery, brand hypocrisy and brand equity, a gyhoeddir yn y Journal of Brand Management.

Rhannu’r stori hon