Ewch i’r prif gynnwys

Mae angen gwell cymorth yn achos Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) yng ngharchardai Cymru

10 Ebrill 2024

Inside a modern prison

Mae'n bosibl y bydd carcharorion â PTSD a C-PTSD (anhwylder straen wedi trawma cymhleth) yng Nghymru yn cwympo drwy fylchau cymorth gan fod amrywiadau yn y sgrinio a’r ymyraethau yng ngharchardai Cymru, yn ôl ymchwil newydd.

Mae'r astudiaeth, gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Greenwich mewn cydweithrediad â Straen Trawmatig Cymru, wedi canfod amrywiadau yn y cymorth a gaiff carcharorion â PSTD a C-PTSD yng Nghymru. Mae hyn yn golygu nad yw rhai carcharorion yn cael y cymorth sydd ei angen i'w hadsefydlu neu leihau aildroseddu yn y dyfodol.

Dyma a ddywedodd Dr Natasha Kalebic, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a arweiniodd yr astudiaeth: “Mae Anhwylder Straen Wedi Trawma ac Anhwylder Straen Wedi Trawma Cymhleth yn gyffredin yn y carchar. Mae'r ddau yn aml yn mynd heb eu canfod a'u trin, a hwyrach y bydd carcharorion sydd eisoes wedi dioddef trawma blaenorol yn cael eu trawmateiddio o’r newydd yn y carchar. Yn y pen draw, bydd hyn yn effeithio yn y pen draw weithiau ar sut mae carcharorion yn cael eu hadsefydlu yn ystod eu dedfryd yn y carchar a'r tebygolrwydd y byddan nhw’n aildroseddu yn y dyfodol.

At ddibenion ein hymchwil, roedden ni eisiau deall sut mae carchardai ledled Cymru yn cefnogi carcharorion â straen trawmatig, os ydyn nhw'n mynd ati i sgrinio carcharorion o ran PTSD neu C-PTSD a pha ymyraethau sy'n cael eu cynnig.
Natasha Kalebic Research Assistant, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Er y gall pob un o'r chwe charchar i ddynion yng Nghymru ddarparu ymyraethau a phresgripsiynau meddygol perthnasol i helpu o ran PTSD a C-PTSD, canfu'r ymchwilwyr mai dim ond hanner sy'n sgrinio'n weithredol ar gyfer y cyflyrau iechyd meddwl ac mae amrywiadau yn y defnydd o therapïau sy'n canolbwyntio ar drawma a argymhellir gan NICE.

Mae'r tîm yn dweud bod hyn yn arwain at beidio â chael y cymorth sydd ei angen ar garcharorion a’r gwahaniaethau eang mewn cymorth rhwng pob carchar.

Dyma a ddywedodd Clare Crole-Rees, Seicolegydd Ymgynghorol a Chydymaith Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Poblogaeth wedi’i thrawmateiddio yw carcharorion, ac yn aml byddan nhw’n cael eu haildrawmateiddio yn y carchar.

“Mae ein hymchwil yn awgrymu bod rhai carcharorion yn bwrw eu dedfryd heb gymorth arbenigol – a'u bod o bosibl yn cael eu rhyddhau i'r gymuned gan ddioddef mwy o drawma.

“Rydyn ni’n gwybod bod PTSD yn ffactor risg yn achos aildroseddu, ac felly mae ymyrraeth a thriniaeth briodol yn achos straen wedi trawma yn chwarae rhan bwysig wrth adsefydlu carcharorion yn ogystal â lleihau hwyrach aildroseddu yn y dyfodol.

Canfuon ni fod hanner y carchardai yn ein hastudiaeth yn defnyddio dull sy'n ymwybodol o drawma yn eu sefydliad. Mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael ag unrhyw fylchau o ran gallu cyrchu cymorth PTSD yn y carchar ac yn gweithredu carchardai gan ddefnyddio dull sy'n ymwybodol o drawma. Mae hyn yn bwysig i'r carcharorion a staff y carchar fel ei gilydd oherwydd natur y carchar sydd weithiau yn gallu trawmateiddio.
Clare Crole-Rees

Ar ben hynny, daeth yr ymchwil o hyd i nifer o rwystrau sy'n atal carcharorion rhag gallu cael cymorth arbenigol, gan gynnwys lefelau staffio, adnoddau a’r gallu i gyrchu hyfforddiant.

“Hefyd, mae’n bosibl bod dedfrydau byrrach o garchar yn rhwystr, gan nad oes gan garcharorion yr amser i gwblhau eu therapi neu bydden nhw’n gorffen eu dedfryd ac ni fyddai'r cymorth yn eu dilyn wedi iddyn nhw fynd nôl i'r gymuned.” ychwanegodd Dr Kalebic.

Mae'r tîm yn awgrymu datblygu llwybr PTSD a C-PTSD yn system y carchardai, gan gynnwys staff rheng flaen ac arbenigwyr i helpu i wella canfod a thrin y cyflwr.

Dyma a ddywedodd yr Athro Andrew Forrester o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, arweinydd prosiect POLAR – prosiect sy'n datblygu llwybr ymyrryd integredig mewn carchardai: “Mae anhwylder straen wedi trawma yn fater o bwys ymhlith pobl yn y carchar, ond yn hanesyddol nid yw gwasanaethau iechyd meddwl wedi cael digon o adnoddau i ddiwallu'r anghenion hyn. Felly mae'n bwysig deall darpariaeth bresennol y gwasanaeth yng ngharchardai Cymru, gan gynnwys yr amrywiadau yn y system, os ydyn ni eisiau symud yn ein blaenau a gwella'r gwasanaeth yn gyffredinol. Yr astudiaeth hon yw cam cyntaf y gwaith hwn.”

Dyma a ddywedodd Dr Kalebic: “Mae angen rhagor o ymchwil i ddeall darlun y DU yn ogystal â ble a phryd y dylid rhoi triniaeth. Fodd bynnag, mae ein hastudiaeth wedi rhoi cipolwg gwerthfawr inni ar y ffyrdd y gallwn wella ni cymorth PTSD a C-PTSD mewn carchardai yng Nghymru.”

“Bellach awn ati i ddylunio a gwerthuso llwybrau clinigol gwell y gellir eu rhoi ar waith mewn carchardai yn y dyfodol. Bydd hyn yn y pen draw yn helpu i adsefydlu carcharorion a gobeithio yn helpu i leihau aildroseddu yn y dyfodol.
Clare Crole-Rees.

Cyhoeddwyd yr ymchwil, Variations in services and intervention pathways for traumatic stress in Welsh prisons: A national survey, yng nghyfnodolyn y Medico-Legal Journal. Roedd yr ymchwil yn rhan o brosiect POLAR, dan arweiniad yr Athro Andrew Forrester o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad â Dr Jack Tomlin, Prifysgol Greenwich, a Straen Trawmatig Cymru.

Rhannu’r stori hon