Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu cyfraniad un o Athrawon Emeritws yr Ysgol i bolisi iaith

27 Mawrth 2024

Mae dau ddyn yn sefyll ac yn gwenu wrth y camera. Mae'r ddau ddyn yn gwisgo siwt ac yn sefyll o flaen baner las.
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, a'r Athro Emeritws Colin H. Williams

Mae arbenigwyr rhyngwladol wedi dod ynghyd i ddiolch i’r Athro Emeritws Colin H. Williams am ei gyfraniad i bolisi iaith.

Cafodd cynhadledd ‘Arloesi ac Arfer Da mewn Polisi Iaith’ ei gynnal ar 8 Chwefror ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd ac fe gafodd ei drefnu ar y cyd rhwng Ysgol y Gymraeg, Cymraeg 2050 a Llywodraeth Cymru.

Mae’r Athro Emeritws Williams, sy’n arbenigwr ar bolisi iaith ac ar gynllunio ieithyddol, wedi cyfrannu’r helaeth i bolisi iaith dros y blynyddoedd. Mae ei waith ymchwil yn cynnwys polisi iaith ac amlieithrwydd ac mae ef wedi ysgrifennu ac wedi cyfrannu i nifer o gyhoeddiadau ers dros 50 mlynedd.

Dywedodd Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: “I ni yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, mae arbenigedd, haelioni a chefnogaeth yr Athro Colin H. Williams yn ysbrydoliaeth ddyddiol.

“Roedd y gynhadledd hon yn gyfle i weld a gwerthfawrogi effaith y rhinweddau hynny ar gydweithwyr a chyfeillion ledled y byd.

“Roedd yn fraint cael bod yn rhan o ddigwyddiad i anrhydeddu Colin, a’i gyfraniadau yntau i’r trafodaethau yn graff, yn fentrus ac yn arloesol, fel o hyd.

“Mae heriau o’n blaenau ni oll yn ein gwahanol feysydd, ond mae Colin yn ein hysbrydoli ni oll i’w hwynebu â hyder.”

Darlithfa yn llawn pobl yn eistedd ar gadeiriau glas a llwyd.
Cynhaliwyd y gynhadledd ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd

Yn ogystal â diolch i’r Athro Emeritws Williams, roedd cyfle hefyd i drafod heriau a llwyddiannau gwarchod ieithoedd lleiafrifol.

Yn rhan o hyn, bu siaradwyr o Gymru, Iwerddon, yr Alban, Gwlad y Basg, Catalwnia a Chanada yn trafod profiadau a syniadau am feysydd megis trosglwyddo iaith, deddfu, a hyrwyddo. Bu trafodaeth hefyd am yr heriau i wleidyddion a’r gymdeithas yn ehangach.

Dywedodd yr Athro Emeritws Williams:- “Roedd yn hyfryd o beth i ddysgu am brofiad gwledydd eraill wrth iddynt drafod sut i lunio polisi iaith a chodi arfer da.

“Rwyf yn ddiolchgar fod y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg wedi cefnogi'r gweision sifil o Lywodraeth Cymru i drefnu’r digwyddiad ar y cyd gydag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

“Roedd yn achlysur hynod o werthfawr a ddenodd cynulleidfa ryngwladol. Ac efallai yn fwy personol roedd yn wych i weld cynifer o wynebau cyfarwydd â hen ffrindiau annwyl. Diwrnod i'r brenin!"

Rhannu’r stori hon