Ewch i’r prif gynnwys

"Ti oedd yr unig un, o'r dechrau’n deg, a oedd yn fodlon siarad â mi go iawn."

26 Mawrth 2024

Dyn ifanc yn ysgwyd llaw gyda rhywun y tu allan i’n golwg

Mae gwarcheidwaid annibynnol sy'n cefnogi goroeswyr ifanc masnachu mewn plant yn hollbwysig yn y gwaith o’u hamddiffyn, sicrhau eu diogelwch a'u hadferiad, a hynny mewn cyd-destun sy'n gynyddol anodd, yn ôl dadansoddiad.

Mae’r ymchwil, dan arweiniad academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd a'i hariannu gan y Ganolfan Polisïau a Thystiolaeth ar Gaethwasiaeth Fodern a Hawliau Dynol (Modern Slavery PEC), yn asesu gwasanaeth Gwarcheidiaeth Annibynnol Masnachu mewn Plant Cymru a Lloegr (ICTG).

Mae'r ymyrraeth cymorth, sy’n destun comisiwn gwladol yng Nghymru a Lloegr ac o dan gontract ar hyn o bryd i elusen plant Barnardo's, ond ar gael mewn dwy ran o dair o awdurdodau lleol, bron i ddeng mlynedd ar ôl i’r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern ei sefydlu.

Asesodd ymchwilwyr effeithiolrwydd y gwasanaeth yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i oroeswyr plant. Canfuwyd bod pobl ifanc o'r farn bod y gwasanaeth yn hollbwysig i'w helpu i lywio system gymhleth, gan greu cysylltiadau rhwng y gwasanaethau a’r gweithwyr proffesiynol sydd ynghlwm wrth eu bywydau.

Mae'r Swyddfa Gartref wedi awgrymu y bydd y gwasanaeth yn cynnwys pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr  o 2025/26 ymlaen.

Dyma a ddywedodd un o oroeswyr caethwasiaeth fodern ifanc a oedd wedi cymryd rhan yn yr ymchwil am ymarferydd yr ICTG: "Ti oedd yr unig un, o'r dechrau’n deg, a oedd yn fodlon siarad â mi go iawn."

Dyma a ddywedodd goroeswr ifanc arall: “Pan ddes i i’r tŷ hwn yn gyntaf, ro’n i mor unig, ac ro’t ti (ymarferydd yr ICTG) yn fodlon bod yn ffrind imi, ac ro’t ti mor garedig a gofalgar.  Rydych chi bob amser yn fodlon neilltuo amser imi. Oherwydd yr hyn wnest ti, bellach dw i ddim yn teimlo'n unig. "

Dyma a ddywedodd gofalwr maeth a ddyfynnir yn yr ymchwil: “Rwy’n meddwl mai chi [gweithiwr yr ICTG] yw'r unig un y mae’r [person ifanc] wedi ymddiried ynddo go iawn, gan ei helpu’n ddirfawr.”

Dyma a ddywedodd Dr Anna Skeels o Brifysgol Caerdydd, a arweiniodd yr ymchwil: “Yn aml, bydd plant sy'n wynebu trawma sy'n gysylltiedig â chaethwasiaeth fodern yn ei chael yn anodd ymddiried yn unrhyw un ac maen nhw'n gorfod llywio cyd-destunau sy’n gymhleth ac yn elyniaethus iddyn nhw yn aml.

Diolch i'r gwasanaeth gwarcheidiaeth, mae plant yn gallu adfer yr ymddiriedaeth hon ac ail-greu eu bywydau unwaith eto. Mae'n hollbwysig bod pob plentyn sy'n destun camfanteisio yn ei erbyn yn gallu cael gafael ar y cymorth hwn y mae ei fawr angen arno.
Dr Anna Skeels

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd y gwasanaeth o ran sicrhau diogelwch pobl ifanc. Ymhlith yr ymyraethau o bwys a nodwyd mae cadw achosion Gwasanaethau Plant ar agor pan oedd asiantaethau eraill wedi bod yn ceisio eu cau; sicrhau diogelwch goroeswyr caethwasiaeth fodern sy'n rhoi tystiolaeth yn y llys yn erbyn masnachwyr; a chyhuddiadau'n cael eu gollwng yn erbyn pobl ifanc mewn achosion o gamfanteisio pan oedd y rhain yn gysylltiedig â gweithgareddau troseddol megis arfer y llinellau cyffuriau.

Amlygwyd mai meithrin perthnasoedd ymddiriedus dros gyfnod o amser gan blant a'u teuluoedd oedd yr allwedd i lwyddiant y gwasanaeth. Dywedodd pobl ifanc a gymerodd ran yn yr ymchwil fod y berthynas hon wedi eu helpu i ymddiried mewn pobl eraill, gan eu galluogi i gymdeithasu, cyrchu addysg, cysylltu â gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau ehangach.

Ond er gwaethaf llwyddiant y gwasanaeth, roedd heriau o hyd. Yn ôl yr achosion a gafodd eu hadolygu yn rhan o’r astudiaeth, roedd 67% o bobl ifanc a oedd yn ceisio lloches yn dal i aros am benderfyniad am eu dyfodol. Cafodd y bygythiad hwn ei nodi’n brif rwystr i’w hadferiad tymor hir.

Dyma a ddywedodd Liz Williams, Rheolwr Effaith Polisïau yn y Ganolfan Polisïau a Thystiolaeth ar Gaethwasiaeth Fodern a Hawliau Dynol, a ariannodd yr astudiaeth: "Peth cadarnhaol yw gweld bod pobl ifanc y mae caethwasiaeth fodern yn effeithio arnyn nhw yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth gwarcheidiaeth gymaint.

"Ein gobaith yw y gall y dystiolaeth hon helpu i lywio'r broses o gyflwyno'r gwasanaeth yn llawn ledled Cymru a Lloegr, a hynny bron i ddeng mlynedd ar ôl i dreialon y gwasanaeth ddechrau."

Dyma a ddywedodd Lynn Perry MBE, Prif Weithredwr Barnardo's: "Mae'r ymchwil hon yn pwysleisio pa mor greiddiol yw cefnogaeth i blant sy'n goroesi troseddau erchyll megis masnachu a chaethwasiaeth fodern.

"Rydyn ni’n croesawu penderfyniad y Llywodraeth i sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn cael ei gyflwyno ledled Cymru a Lloegr, yn unol â’r addewid a wnaed ers nifer o flynyddoedd bellach. Yn sgil yr ymchwil hon, mae’n amlwg y bydd miloedd yn rhagor o blant yn gallu elwa ar yr ehangu hwn."

Dyma a ddywedodd Hannah Stott o Safe to Grow a oedd yn gydweithredwr ar y tîm ymchwil: "Mae'r ymchwil hon yn atgyfnerthu rôl gwarcheidwaid ym mywydau plant a phobl ifanc a fasnachwyd yn ogystal â'r rhwydwaith proffesiynol ehangach sy'n gweithio ar y cyd â nhw.

"Rwy'n mawr groesawu cyhoeddiad diweddar y Llywodraeth i sicrhau bod gwasanaethau ICTG ar gael ledled Cymru a Lloegr. Bydd hyn yn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc a nodwyd yn achos posibl o fasnachu yn gallu cael gafael ar y cymorth arbenigol sydd ei angen arno."

Diben yr ymchwil hon oedd sicrhau bod plant a phobl ifanc â phrofiad byw o gaethwasiaeth fodern yn greiddiol iddi ac yn hyn o beth roedd deg ymgynghorydd ifanc yn bwydo i mewn i ddyluniad a chanfyddiadau'r prosiect.

Rhannu’r stori hon

Mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar draws disgyblaethau i fynd i’r afael â heriau pwysig sy’n wynebu cymdeithas, yr economi a’n hamgylchedd.