Ewch i’r prif gynnwys

Casglu, cyfathrebu a chadw ein hetifeddiaethau hanesyddol

21 Mawrth 2024

History and Archive in Practice yn dod i Gymru

Sut ydyn ni’n casglu, yn cyfathrebu ac yn cadw ein hetifeddiaethau hanesyddol? Dyma’r cwestiwn oedd yn cael ei ystyried gan History and Archives in Practice.

History and Archives in Practice (HAP) yw digwyddiad blynyddol mewn partneriaeth â’r Archifau Cenedlaethol, y Gymdeithas Hanes Brenhinol, a’r Sefydliad Ymchwil Hanesyddol. Daeth y sefydliadau cenedlaethol hyn at ei gilydd am y tro cyntaf yng Nghaerdydd, gan weithio gyda Hanes a Chasgliadau Arbennig ac Archifau ym Mhrifysgol Caerdydd i gynnal diwrnod cyffrous o weithdai a phaneli.

Uchafbwynt misoedd o gynllunio oedd croesawu dros 110 o gyfranogwyr o bob rhan o’r DU i Brifysgol Caerdydd i drafod  sut y gall amgueddfeydd, archifau a haneswyr ddod at ei gilydd i feddwl am etifeddiaeth pobl a lleoedd.

Gyda chynrychiolaeth gan Amnest International, Kew Gardens, the National Trust, Islamic Relief Worldwide, National Windrush Museum, Museum of the Home i enwi dim ond rhai, bu ymchwilwyr, archifwyr, elusennau, a sefydliadau cymunedol a threftadaeth yn cydweithio i drafod a thrin heriau cyfoes o amgylch cynrychiolaeth, cadwraeth, ac i ddysgu am ein gorffennol.

Ar draws rhaglen orlawn, bu cyfranogwyr yn myfyrio ar ein cyfrifoldeb cyfunol i gadw ein treftadaeth. Ystyriwyd heriau allweddol yn ymwneud â gwerth, colled, a mynediad ynghyd â sut i weithio gyda chymunedau amrywiol.

Wrth fyfyrio ar y diwrnod, dywedodd cyfarwyddwr y Sefydliad er Ymchwil Hanesyddol, yr Athro Claire Langhamer:

‘’Amlygodd trafodaethau’r digwyddiad ‘’HAP24’’ bwysigrwydd hanes i unigolion a chymunedau a pham ei fod byth a beunydd yn ymdrech gydweithredol.’’

Wrth siarad ar ran y grŵp trefnu yn y Brifysgol, dywedodd Dr Esther Wright, hanesydd digidol:

“Cawsom ymdeimlad dwys o'r heriau sy'n ein hwynebu wrth gadw, amddiffyn a chyfathrebu am ein hetifeddiaethau, ond hefyd sut mae cydweithio'n caniatáu i ni wynebu'r heriau hyn. Gobeithiwn fod cyfranogwyr HAP24 yn teimlo’n llawn egni i roi dulliau arloesol a chydweithredol o’r fath ar waith eu hunain ledled y DU.”

Rhannu’r stori hon