Ewch i’r prif gynnwys

Llyfr y Flwyddyn Cymru 2024

21 Mawrth 2024

Datgloi cysylltiadau yn y byd llenyddiaeth drwy noddi gwobr o fri

Ar Ddiwrnod y Llyfr, cyhoeddodd yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ei nawdd i gefnogi Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru 2024 (yn yr Iaith Saesneg).

A hithau’n un o brif noddwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru (yn yr Iaith Saesneg), bydd yr Ysgol yn ymuno â nifer o gefnogwyr eleni, gan gynnwys noddwyr y seremoni wobrwyo, sef Brecon Carreg, Distyllfa Penderyn a Chwrw Llŷn.

Bydd y cysylltiad hwn yn gweld enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru (yn yr Iaith Saesneg)[WBOTY] yn ymddangos yn rhan o gyfres Sôn am Straeon Caerdydd,fydd ar gael i’w ffrydio’n fyd-eang.

Bydd myfyrwyr yr Ysgol yn elwa mewn amryw o ffyrdd ymarferol, boed hynny drwy gyfuniad o ddigwyddiadau a chyfleoedd rhwydweithio, neu docynnau i fynd i ystod o ddigwyddiadau WBOTY, gan gynnwys derbyniad arbennig yng Ngŵyl y Gelli a gwahoddiad i’r seremoni wobrwyo.

Dyma’r hyn a ddywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Mark Llewellyn:

"Mewn gwlad lle mae llenyddiaeth mor bwysig, rydyn ni’n angerddol dros fedru chwarae ein rhan wrth gefnogi awduron creadigol a darllenwyr ymhlith y cyhoedd. Bydd staff a myfyrwyr ym maes ysgrifennu creadigol ac astudiaethau llenyddol yn elwa'n fawr o'r arbenigedd, yr wybodaeth a'r profiad a gynigir gan dîm Llenyddiaeth Cymru. Yn ogystal, bydd ganddyn nhw hefyd gyfleoedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau ac ymgysylltu ag awduron, beirniaid a darllenwyr."

Drwy ddathlu talent lenyddol nodedig o Gymru ar draws ystod o genres yn y Gymraeg a’r Saesneg, bydd Llyfr y Flwyddyn Cymru yn cynnig llwyfan a chyhoeddusrwydd i awduron newydd a’r rheiny sydd eisoes wedi ennill eu plwyf.

Bydd y wobr lenyddol o bwys hon yn chwarae rhan bwysig wrth ddathlu a chynrychioli awduron, treftadaeth, a diwylliant llenyddol cyfoethog y genedl. Mae pedwar categori ym mhob iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc - gyda phob enillydd cyffredinol yn hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn Cymru a Llyfr y Flwyddyn.

Yn ogystal, byddgwobrau Dewis y Bobl a Barn y Bobl yn cael eu penderfynu drwy bleidlais gyhoeddus.

Bydd unigolion nodedig o’r byd llenyddiaeth yn beirniadu ar y paneli. Y beirniaid yn 2024 fydd:

Cadeirydd Iaith Saesneg

o PEN Cymru, Dylan Moore (Llenyddiaeth Saesneg a Beirniadaeth Ddiwylliannol, BA 2001)

Yr awdur Patrice Lawrence

Y nofelydd a'r dramodydd Rachel Trezise

bardd a nofelydd Pascale Petit

Y Gymraeg

bardd Tudur Dylan Jones

actor, cyfarwyddwr ac awdur Hanna Jarman

awdur ac Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg Rhiannon Marks

Cynhyrchydd, cyfarwyddwr ac awdur Nici Beech

Eleni, bydd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon ar 4 Gorffennaf. Dilynwch #WBOTY am yr holl newyddion diweddaraf ynghylch y wobr.

Rhannu’r stori hon