Ewch i’r prif gynnwys

Lansio cynllun Disgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith ar gyfer 2024

18 Mawrth 2024

Ystafell o ddisgyblion benywaidd yn edrych ar ei gilydd ac yn gwenu.
Cymerodd y disgyblion ran mewn gweithgareddau drwy gydol y dydd

Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru wedi lansio ei gynllun Disgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith ar gyfer 2024.

Lansiwyd y rhaglen, sy'n cael ei hariannu'n rhannol gan y Cyngor Prydeinig drwy Lywodraeth Cymru, ar 27 Chwefror, ac fe gymerodd 109 disgybl o 17 ysgol ledled de Cymru ran mewn diwrnod o weithgareddau’n seiliedig ar iaith.

Cynhaliwyd y digwyddiad wyneb yn wyneb yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd a hynny am y tro cyntaf ers pandemig Covid-19. Drwy gydol y diwrnod hyfforddi, bu'r disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, gan gynnwys sesiynau rhagarweiniol a rhyngweithiol a gyflwynwyd gan y Sefydliadau Diwylliannol (Institut Français, Goethe-Institut a Sefydliad Confucius) a thaith o gwmpas y campws. Cawsant sesiynau blasu hefyd yn yr iaith Thai, Eidaleg a Phortiwgaleg dan ofal rhai o Fyfyrwyr sy’n Llysgenhadon Iaith, Llwybrau Cymru.

Mae grŵp o blant ysgol yn sefyll mewn parc. Maen nhw'n wynebu i ffwrdd o'r camera.
Cafodd y disgyblion daith o amgylch y campws fel rhan o ddigwyddiadau'r diwrnod

Mae'r cynllun wedi'i anelu at ddisgyblion blynyddoedd 7–9, a'r nod yw hyfforddi dysgwyr i fod yn llysgenhadon ysbrydoledig ar gyfer ieithoedd rhyngwladol yn eu hysgolion a'u cymunedau.

Mae myfyriwr yn rhoi cyflwyniad. Mae hi'n edrych ar y sgrîn ac yn cyfeirio at ddelweddau ar y sgrîn.
Un o'r myfyrwyr a roddodd gyflwyniad ar y diwrnod

Dewisir y disgyblion gan eu hathrawon ac maen nhw’n cael hyfforddiant gan Llwybrau at Ieithoedd Cymru sy'n eu helpu i gyflwyno gweithgareddau creadigol a hwyliog yn seiliedig ar iaith a diwylliant. Mae’r rhain yn herio ac yn newid safbwyntiau eu cyfoedion ynghylch pwysigrwydd ieithoedd rhyngwladol.

Maen nhw’n gwneud hyn gyda chymorth llyfr gwaith pwrpasol a grëwyd gan Llwybrau Cymru sy'n rhoi ystod o 'heriau' i ddisgyblion y gallan nhw eu cyflawni yn eu hysgolion. Y nod cyffredinol yw ysgogi brwdfrydedd at ieithoedd a diwylliannau rhyngwladol.

Dywedodd Nazaret Perez-Nieto, Cyfarwyddwr Academaidd Llwybrau at Ieithoedd Cymru:

"Roedd cael rhai o'n Disgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith yn ymweld â Phrifysgol Caerdydd am y tro cyntaf yn hudolus. Roedd y cyfan yn werth chweil, yn enwedig wrth weld eu hwynebau'n goleuo gyda'r ystod eang o weithgareddau yr oedden nhw wedi eu mwynhau ar y diwrnod.

"Mae Tîm Llwybrau Cymru, gyda chefnogaeth gan MFL Mentoring, wedi gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau bod y digwyddiad hwn yn llwyddiant. Eleni, mae cyfanswm o 36 ysgol, 26 ohonynt yn ysgolion newydd, a 303 o ddisgyblion wedi cael eu hyfforddi i fod yn Ddisgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith, hynny naill ai wyneb yn wyneb neu ar lein. Mae hyn yn  brawf gwirioneddol o'r brwdfrydedd at ieithoedd a diwylliannau ymhlith disgyblion ifanc yng Nghymru."

Mae disgyblion sy'n cymryd rhan yn y cynllun Disgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith nid yn unig yn cael hyfforddiant i fod yn llysgenhadon iaith, ond byddan nhw hefyd yn cystadlu am Wobr Tîm Disgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith y Flwyddyn. Yn rhan o’r hyfforddiant, bydd gofyn cwblhau cyfres o heriau gwahanol, a fydd wedi’u creu gan dimau Mentora Llwybrau at Ieithoedd Tramor Modern Cymru. Bydd enillwyr y wobr hon yn cael eu cyhoeddi yn ystod seremoni wobrwyo Tîm Disgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith y Flwyddyn yn ddiweddarach eleni.

Rhannu’r stori hon