Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu llwyddiant yr Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl Grangetown!

18 Mawrth 2024

Bu i drigolion lleol ymgynnull ynghyd ym Mhafiliwn Grange eleni ar gyfer yr Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl Grangetown, sef digwyddiad blynyddol sy'n dathlu ystod eang o ddewisiadau gyrfaol. Yn ystod y digwyddiad hwn, caiff cyngor ac arweiniad ymarferol eu darparu ar sut i gael mynediad at addysg uwch, a sut i ymgeisio am swyddi a llwybrau gyrfaol amgen, megis entrepreneuriaeth.

Fe wnaethon ni recordio rhagflas o’r hyn a oedd ar gael yno, yn ogystal â’r profiadau yr oedd ymwelwyr wedi’u hennill wrth gymryd rhan yn y digwyddiad hwn.

Fideo Mhafiliwn Grange eleni ar gyfer yr Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl Grangetown

[Hawlfraint: Clear the Fog Ltd]

Gwnaeth y Gronfa Arian Sefydlu’r Bartneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru ein galluogi i gynnal y digwyddiad yn 2024 ar raddfa fwy nag a geid mewn blynyddoedd blaenorol, gan ganiatáu inni gydweithio â phartneriaid eraill ym maes Addysg Uwch ac Addysg Bellach ledled De Cymru. Yn ogystal â phresenoldeb Prifysgol Caerdydd yn y digwyddiad, bydd Coleg Caerdydd a’r Fro, y Brifysgol Agored, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gyd yn cymryd rhan drwy gydol yr wythnos.

Cynhaliwyd y digwyddiad hwn ym Mhafiliwn Grange o ddydd Llun 4 Mawrth tan ddydd Gwener 8 Mawrth (ar ôl ysgol), lle y bu ffocws gwahanol ar bob diwrnod o’r wythnos honno. Drwy gydol yr wythnos, roedd modd i ymwelwyr ymgysylltu â 50 o stondinau, a chael blas ar amryw o weithgareddau ymarferol, boed taro ar arddangosfa efelychiadau Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, neu reoli robotiaid yr Ysgol Peirianneg.

Ymhlith yr hyn a gynigwyd oedd sgyrsiau a chyflwyniadau ar amrywiaeth o bynciau, o lwybrau at radd ym maes gofal iechyd i'r gwahanol lwybrau gyrfaol sydd ar gael i raddedigion Saesneg. Gwnaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru hefyd gynnal sesiynau canu a drama rhyngweithiol.

Roedden ni hefyd yn falch iawn o allu cynnal ymweliad â’r campws (a gafodd ei drefnu gan y Tîm Ehangu Cyfranogiad) ar gyfer darpar fyfyrwyr prifysgol a'u teuluoedd, er mwyn iddyn nhw gael blas ar fywyd yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr (CSL)!

Rhoddwyd cyfle i fyfyrwyr o ysgolion lleol fanteisio ar y digwyddiad hwn, ac yn eu plith oedd disgyblion o Ysgol Hamadryad, Ysgol Gynradd St Pauls, Ysgol Gynradd Grangetown, Ysgol Gynradd Parc Ninian, Ysgol Fitzalan, Ysgol St Cyres ac Ysgol Cathays High.

Y flwyddyn nesaf byddem ni’n dathlu 10 mlynedd ers sefydlu Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl Grangetown, felly cadwch eich llygaid ar agor am gynlluniau maes o law gan dîm y Porth Cymunedol!

Roedd tîm y Brifysgol Agored yng Nghymru wir wedi mwynhau cwrdd â phobl o bob oed i drin a thrafod dyheadau a llwybrau dysgu posibl yn ystod wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl Grangetown. Drwy law tîm y Porth Cymunedol roedd naws groesawgar yno ac oherwydd hyn roedd y partneriaid yn gallu cydweithio ac roedd aelodau o'r gymuned yn chwilfrydig am y digwyddiad, ac edrychwn ymlaen at lawer mwy o gyfleoedd i bartnera er mwyn cefnogi dysgu gydol oes yn y dyfodol.

Sarah Roberts Uwch-reolwr (Partneriaethau ac Effaith), Y Brifysgol Agored

Rhannu’r stori hon