Ewch i’r prif gynnwys

Cystadleuaeth areithio Siapanaeg yn dychwelyd i Brifysgol Caerdydd

18 Mawrth 2024

Grŵp o bobl yn sefyll ac yn gwenu wrth y camera. Mae rhai pobl yn sefyll ac eraill yn penlinio.
Myfyrwyr a staff yn y gystadleuaeth areithio Siapanaeg

Mae cystadleuaeth areithio Siapanaeg flynyddol wedi dychwelyd i Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar 29 Chwefror yn narlithfa Wallace ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd. Rhoddodd y myfyrwyr areithiau ar yr iaith Siapanaeg a diwylliant a chymdeithas Siapan.

Roedd y gystadleuaeth yn agored i fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf, eu hail flwyddyn a'u blwyddyn olaf. Cynhaliwyd cystadleuaeth ar wahân ar gyfer pob carfan. Rhoddwyd pwnc gwahanol i bob grŵp blwyddyn i'w drafod, a bu'n rhaid rhoi areithiau o fewn terfynau amser penodol.

Bu'n rhaid i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf roi araith a oedd i bara tair munud a oedd yn cynnwys cyflwyniad amdanynt, ac esboniad pam y dewison nhw astudio Siapanaeg. Bu'n rhaid i fyfyrwyr yr ail flwyddyn roi araith a oedd i bara pum munud ar yr hyn yr hoffent ei wneud yn ystod eu blwyddyn dramor a bu'n rhaid i fyfyrwyr blwyddyn olaf roi araith a oedd i bara saith munud ar unrhyw bwnc oedd yn gysylltiedig â chymdeithas a diwylliant Siapan. Roedd Dr Mayu Negami-Handford o'r Ysgol Ieithoedd Modern a Takeyuki Watanabe o Ganolfan Technoleg Sony UK yn rhan o'r panel beirniadu a gofynnon nhw gwestiwn i bob myfyriwr ar ôl eu hareithiau nhw.

Cymerodd 8 o fyfyrwyr ran yn y gystadleuaeth yn gyffredinol. Cystadlodd 3 myfyriwr yng nghategori’r flwyddyn gyntaf, cystadlodd 3 myfyriwr yng nghategori’r ail flwyddyn a chystadlodd 2 fyfyriwr yng nghategori’r flwyddyn olaf.

Cynhaliwyd derbyniad ym Mhrif Adeilad y brifysgol ar ôl y gystadleuaeth, lle cyhoeddwyd enillwyr y gystadleuaeth.

Enillodd Lanta Mao gystadleuaeth y flwyddyn gyntaf, Matthew Hickman enillodd gystadleuaeth yr ail flwyddyn a Mia Bagdasarian ddaeth yn ail a Nabil El Bark enillodd gystadleuaeth y flwyddyn olaf.

Mae myfyriwr benywaidd sy'n gwisgo sbectol ac yn dal bag yn gwenu wrth y camera.
Enillydd cystadleuaeth y flwyddyn gyntaf, Lanta Mao
Mae dyn sy'n gwisgo sbectol a siaced ddu yn gwenu wrth y camera.
Enillydd cystadleuaeth yr ail flwyddyn, Matthew Hickman
Mae menyw sy'n gwisgo cot hir ac yn dal bag yn gwenu wrth y camera.
Mia Bagdasarian, a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y flwyddyn olaf
Mae dyn sy'n dal bocs gwyn yn gwenu wrth y camera.
Enillydd cystadleuaeth y flwyddyn olaf, Nabil El Bark

Rhoddwyd gwobr i bob un o’r myfyrwyr buddugol a sicrhaodd Nabil El Bark, enillydd cystadleuaeth y flwyddyn olaf, interniaeth gyda Sony hefyd.

Mae Dr Christopher Hood yn ddarllenydd mewn astudiaethau Siapanaeg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac ef oedd un o drefnwyr y gystadleuaeth areithio. Dyma’r hyn a ddywedodd: “Rwyf mor falch o berfformiad yr holl fyfyrwyr. Mae'n cymryd cryn dipyn o ddewrder i sefyll o flaen cynulleidfa a siarad mewn iaith y mae llawer o fyfyrwyr wedi bod yn ei astudio ers amser cymharol fyr yn unig. Mae'n wych ein bod yn gallu cynnal digwyddiad fel hwn, ac rydym yn hynod ddiolchgar i Sony UK Technology Centre am eu cefnogaeth. Mae’r ffaith ein bod ni’n gallu cynnal y gystadleuaeth areithio hon wir yn helpu Prifysgol Caerdydd i gryfhau ein henw da yn un o’r rhaglenni Siapanaeg blaenllaw yn y DU ac yn Ewrop.”

Llongyfarchiadau i enillwyr y gystadleuaeth areithio Siapanaeg eleni!

Rhannu’r stori hon