Ewch i’r prif gynnwys

Ni fyddai pobl ifanc yn ymddiried mewn gwasanaethau iechyd rhywiol digidol

11 Mawrth 2024

Person ifanc yn dal ffôn

Gallai gwasanaethau digidol, megis apiau a gwasanaethau tecstio dienw, newid sut y byddwn ni’n ymwneud â gwasanaethau iechyd rhywiol ond fyddai pobl ifanc ddim yn ymddiried ynddyn nhw, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Mae ymchwil wedi canfod, er bod gan wasanaethau iechyd rhywiol digidol lawer o botensial i helpu pobl ifanc i deimlo'n fwy cyfforddus wrth siarad am iechyd rhywiol, mae problemau o bwys o ran yr hyn y mae pobl ifanc yn ei ddisgwyl a'i eisiau gan y gwasanaethau hyn, ac ar hyn o bryd fydden nhw ddim yn ymddiried ynddyn nhw.

Mae gan bobl ifanc o dan 25 oed gyfradd anghymesur o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) - oherwydd hyn, mae iechyd rhywiol pobl ifanc yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth iechyd.
Dr Clare Bennett Darllenydd: Cyfieithu Gwybodaeth a Gwella Iechyd

"Yn rhyngwladol, mae systemau iechyd yn symud tuag at ofal sy'n cael ei gyfryngu'n ddigidol, a hynny i ddiwallu anghenion iechyd poblogaethau, ac mae gwasanaethau iechyd rhywiol wedi bod ar flaen y gad yn y newidiadau hyn.

"Mae pobl ifanc yn parhau i danddefnyddio gofal iechyd rhywiol mewn gwasanaethau wyneb yn wyneb a gwasanaethau rhithwir fel ei gilydd. Ein nod oedd deall yr hyn y gellid ei wneud i gynyddu’r nifer sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol."

Gan weithio gyda nyrsys iechyd rhywiol o dair Ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr mewn lleoliadau arfordirol, gwledig a threfol, yn ogystal â chynnal ymchwil gyda phobl ifanc 16-18 oed mewn addysg amser llawn yng Nghymru a Lloegr, aeth ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ati i ddeall canfyddiadau o dechnolegau iechyd rhywiol digidol a phrofiad uniongyrchol nyrsys o ddarparu'r gwasanaethau hyn.

Er bod nyrsys o'r farn y byddai digideiddio gwasanaethau iechyd rhywiol yn helpu rhai pobl ifanc i oresgyn rhwystrau i gael triniaeth megis teimlo chwithdod, canfu’r ymchwil fod pobl ifanc yn drwgdybio gwasanaethau ar-lein ac mae ganddyn nhw ddisgwyliadau afrealistig am yr hyn y gall y rhain ei ddarparu.

Roedd y bobl ifanc wedi mynegi disgwyliadau penodol ac eisiau dewis - gan fynegi’r angen am wasanaeth oedd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, a bod atebion ar gael ar unwaith. Dywedon nhw y byddai unrhyw system a oedd yn golygu oedi wrth ymateb yn annerbyniol i'w grŵp oedran.
Dr Clare Bennett Darllenydd: Cyfieithu Gwybodaeth a Gwella Iechyd

Dangosodd yr ymchwil hefyd fod gwasanaethau digidol yn gyfyngedig wrth fynd i'r afael â mathau o anghydraddoldeb o ran cyrchu gwasanaethau iechyd rhywiol oherwydd nad oedd rhai pobl ifanc yn gallu cyrchu’r dechnoleg.

"Er bod trawsnewidiadau digidol wedi treiddio i bron bob agwedd ar fywyd bob dydd, ac yn enwedig ym mywydau pobl ifanc, ni allwn gymryd yn ganiataol bod llythrennedd digidol a’r gallu i gyrchu technoleg ddigidol ar gael. Wrth i wasanaethau fynd yn fwy digidol, mae'n bwysig pwysleisio bod perygl o allgáu digidol ymhlith y rheini sydd â mynediad, sgiliau ac ymwybyddiaeth gyfyngedig o wasanaethau digidol.

"Mae ein hymchwil yn dangos y byddai platfformau a gwasanaethau digidol yn unig - fel y mae'r bobl ifanc yn yr astudiaeth hon yn ei fynegi - yn annigonol i fynd i'r afael â'u hanghenion. Yn hytrach, dylai gwasanaethau digidol fod yn rhan o'r system yn hytrach na chymryd lle gwasanaethau wyneb yn wyneb traddodiadol," ychwanegodd Dr Bennett.

Dangosodd y canfyddiadau fod pobl ifanc eisiau i wasanaethau digidol fod ar gael a’u bod yn hawdd eu defnyddio, ac er bod gan wasanaethau iechyd rhywiol digidol botensial i gynyddu nifer y bobl ifanc sy’n eu defnyddio, dylai'r gwasanaethau weithio ochr yn ochr ag ymweliadau â’r clinig ac ni ddylen nhw gymryd eu lle.

Gan weithio gyda nyrsys o glinigau iechyd rhywiol, dysgon ni y dylai gwasanaethau digidol weithio ochr yn ochr ag ymweliadau clinigol yn hytrach na chymryd eu lle. Yn ein hymchwil, canfuon ni fod bod angen asesiadau wyneb yn wyneb yn aml, ond roedd ymgysylltu digidol yn golygu bod y nyrsys yn gallu meithrin ymddiriedaeth i hwyluso presenoldeb wyneb yn wyneb.
Dr Clare Bennett Darllenydd: Cyfieithu Gwybodaeth a Gwella Iechyd

Cyn bod gwasanaethau digidol yn gallu cyflawni eu potensial, mae angen mynd i'r afael ag ymddiriedaeth yn ogystal â'r disgwyliadau o ran yr hyn y gall y gwasanaeth ei ddarparu.

"Mae gan systemau iechyd rhywiol digidol botensial mawr - o ran gwella gallu pobl ifanc i gyrchu gwasanaethau iechyd rhywiol a chwalu rhai mathau o anghydraddoldeb iechyd rhywiol. Ond mae gofyn mynd i'r afael ag ymddiriedaeth a disgwyliadau, a dylai'r technolegau hyn fod yn rhan annatod o'r systemau ehangach, fel arall hwyrach y bydd eu heffaith yn cael ei pheryglu," ychwanegodd Dr Bennett.