Ewch i’r prif gynnwys

Sefydliad Confucius Caerdydd yn dathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd

4 Mawrth 2024

Pen draig goch ac aur wedi'i wneud allan o falwnau.
Yn ôl y Sidydd Tsieineaidd, 2024 yw blwyddyn y ddraig

Mae staff yn Sefydliad Confucius Caerdydd wedi trefnu a chyfrannu at ddigwyddiadau ledled Caerdydd i ddathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.

Cynhaliwyd sawl digwyddiad yn ystod mis Chwefror i nodi’r achlysur gyda chymorth cymunedol y Sefydliad Confucius mewn digwyddiadau yng nghymuned leol Caerdydd.

Cynhaliwyd y digwyddiadau hyn ar y cyd â Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd, y gymuned Tsieineaidd leol a Chanolfan y Ddraig Goch gydag amrywiaeth o weithgareddau i bobl o bob oedran.

Cafodd ymwelwyr â Llyfrgell Ganolog Caerdydd a Chanolfan y Ddraig Goch gyfle i ddysgu mwy am ddiwylliant Tsieineaidd yn ogystal â rhoi cynnig ar galigraffi, gwneud llusernau a phlygu papurau yn ystod y sesiynau a gynhaliwyd gan Sefydliad Confucius Caerdydd ddydd Sadwrn 10 Chwefror, ddydd Sul, 11 Chwefror. Roedd sesiynau eraill yn cynnwys blasu te Tsieineaidd, rhoi cynnig ar ddillad Tsieineaidd traddodiadol a mwynhau perfformiad o Ddawns y Llew.

Dathlodd y digwyddiadau hyn ddechrau’r flwyddyn Tsieineaidd newydd sydd yn flwyddyn y ddraig yn ôl y Sidydd Tsieineaidd. Mae hyn yn dilyn ymlaen o flwyddyn y gwningen yn 2023.

Mae pobl sydd wedi gwisgo i fyny fel llew a chymeriad Tsieineaidd yn perfformio dawns yn y stryd.
Mwynhaodd ymwelwyr berfformiad o Ddawns y Llew

Dywedodd Kate Barber, Rheolwr Rhyngwladol Prifysgol Caerdydd: “Roedd yn benwythnos llawn dathliadau. Aeth mwy na 1000 o bobl i'r digwyddiad yn Llyfrgell Caerdydd drwy gydol y prynhawn, cynnydd o’r niferoedd a oedd yn bresennol ar gyfer digwyddiadau blaenorol y flwyddyn Newydd.

“Cofnododd Canolfan y Ddraig Goch gyfanswm o 6,000+ o ymwelwyr ddydd Sul gyda’r amseroedd brig rhwng 12-4pm, pan oedd y digwyddiad yn cael ei gynnal. Rydym wrth ein bodd yn parhau i gyfrannu at y dathliad hwn a’n bod yn ymgysylltu mor wych â’r gymuned leol.”

Mae menyw sydd wedi ei gwisgo mewn melyn yn arllwys te o debot.
Roedd sesiwn blasu te Tsieineaidd yn un o'r sesiynau a gynhaliwyd dros y penwythnos

Cynhaliodd Sefydliad Confucius Caerdydd ddigwyddiadau eraill gydag ysgolion cynradd i ddathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd. Cynhaliwyd sesiynau byw ar-lein gan diwtoriaid ar 9 Chwefror a oedd yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys y Sidydd Tsieineaidd, llythrennau a cholur opera Tsieineaidd. Cymerodd 44 o ysgolion cynradd ledled Cymru ran yn y sesiynau hyn, ac roedd llawer mwy yn bwriadu defnyddio’r sesiynau a’r adnoddau a gofnodwyd yn eu hamser eu hunain.

Cofnodwyd sesiynau ychwanegol hefyd ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd. Roedd y rhain yn trafod bywyd yn Tsieina ac yn ymdrin â phynciau fel diwylliant ieuenctid a thai te yn Tsieina.

Dywedodd Vicky Ucele, Rheolwr Prosiect Ysgolion Cymru Tsieina yn Sefydliad Confucius Caerdydd: “Mae ein gweithgareddau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd yn parhau i dyfu bob blwyddyn, ac roeddem yn falch iawn o weld cymaint o ysgolion o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan.

“Roedd ymhell dros 100 o ysgolion â diddordeb yn ein gŵyl ar-lein ar gyfer ysgolion cynradd, ac mae bron i 30 o ysgolion uwchradd wedi cofrestru ar gyfer ein fideos arbennig 'Bywyd yn Tsieina'.

“Mae’r rhain yn niferoedd ardderchog, ochr yn ochr â’r gweithgareddau y mae tiwtoriaid yn eu gwneud yn yr ysgolion yr ydym yn gweithio gyda nhw yn rheolaidd (yn ogystal â 5 ysgol wnaeth gynnal dathliadau arbennig ar eu cyfer), mae blwyddyn y Ddraig yn sicr yn edrych yn llewyrchus yn barod!"

Rhannu’r stori hon