Ewch i’r prif gynnwys

Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol yn croesawu ysgolhaig Cyfraith a Chymdeithas Affrica yn Gymrawd

4 Mawrth 2024

Professor Ambreena Manji
Professor Ambreena Manji

Mae ysgolhaig cyfreithiol toreithiog wedi cael ei ethol i Gymrodoriaeth Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol (Academy of Social Sciences) fis Mawrth eleni.

Mae’r Athro Ambreena Manji o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn rhan o garfan o 41 o wyddonwyr cymdeithasol a fydd yn ymuno â’r Gymrodoriaeth y gwanwyn hwn.

Mae Cymrodoriaeth yr Academi yn cynnwys mwy na 1,500 o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw o'r byd academaidd, y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Mae eu harbenigedd yn cwmpasu’r gwyddorau cymdeithasol ar ei hyd, ac mae eu hymarfer a’u hymchwil yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu cymunedau, y gymdeithas, lleoedd ac economïau. Bydd pob un o Gymrodorion yr Academi yn cael eu dewis yn dilyn adolygiad annibynnol gan gymheiriaid sy’n cydnabod eu rhagoriaeth a’u heffaith, gan gynnwys eu cyfraniadau ehangach at y gwyddorau cymdeithasol er budd y cyhoedd.

Ymunodd yr Athro Manji ag Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn 2014 yn Athro Cyfraith Tir a Datblygu yn dilyn cyfnod o 4 blynedd yn Nairobi yn Gyfarwyddwr Sefydliad Dwyrain Affrica’r Academi Brydeinig.

Yn rhan o ddiddordeb ymchwil rhyngddisgyblaethol yr Athro Manji yng Nghyfraith a Chymdeithas Affrica mae ei gwaith ar ddiwygio cyfraith tir, addysg gyfreithiol Affrica, y gyfraith yn llenyddiaeth Affrica, hanes Affrica, a menywod a'r gyfraith.

Yng Nghaerdydd, yr Athro Manji yw Deon Affrica’r Brifysgol ac mae’r Ganolfan Cyfraith a Chyfiawnder Byd-eang a gyd-sefydlodd wedi ymrwymo i ymgysylltu ag ysgolheigion deheuol ar draws y disgyblaethau. Lansiodd y Ganolfan ei Chynllun De Byd-eang Cylchgronau Cymdeithasol-Gyfreithiol yn 2018, gan drefnu gweithdai ysgrifennu i ysgolheigion cyfreithiol ar ddechrau eu gyrfa yn Recife, Bangalore, Accra a Nairobi.

Y tu allan i’r brifysgol mae gan yr Athro Manji ystod o rolau amrywiol gan gynnwys bod yn aelod o Gyngor llywodraethu’r AHRC ac yn olygydd y cyfnodolyn African Affairs. Cafodd ei hethol yn un o Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2020.

Mae rhestr lawn o Gymrodyr y gwanwyn i’w gweld ar wefan Academi y Gwyddorau Cymdeithasol.

Rhannu’r stori hon