Ewch i’r prif gynnwys

Cyn-fyfyriwr ymchwil yn cyhoeddi llyfr newydd

29 Chwefror 2024

Dyn yn gwenu ar ddiwrnod heulog.
Dr Patrick Carlin

Mae un o gyn-fyfyrwyr ymchwil Ysgol y Gymraeg wedi cyhoeddi llyfr newydd.

Mae ‘Political Community in Minority Language Writing : Claiming Difference, Seeking Commonality’, a ysgrifennwyd gan Dr Patrick Carlin a’i gyhoeddi gan Palgrave Macmillan, yn trafod ffenomen baradocsaidd braidd, sef sut mae ymlyniadau, ymrwymiadau a honiadau ynghylch y gwerthoedd a'r gofynion cyffredinol neu gyfanfydol sy'n perthyn i wead y ddynoliaeth gyfan yn cael eu cyfleu mewn llu o ieithoedd gwahanol tra eu bod hefyd yn rhan o gyd-destunau hanesyddol a diwylliannol penodol.

Mae’r llyfr yn cynnwys astudiaethau achos a dadansoddiad cymharol o waith 3 awdur a ddewisai ysgrifennu mewn iaith leiafrifol Ewropeaidd, yn ogystal ag ymdriniaeth o’r ffordd mae’r awduron yn gweledigaethu'r berthynas rhwng cymuned wleidyddol genedlaethol a'r fath ofynion dynol cyfanfydol.

Mae’r llyfr hefyd yn cyflwyno, am y tro cyntaf i ddarllenwyr Saesneg eu hiaith, ymdriniaeth fanwl o waith y bardd a'r nofelydd o Wlad y Basg Joseba Sarrionandia (1958–) a’r offeiriad, yr awdur a’r ymgyrchydd anufudd-dod sifil o Gatalwnia Lluís Maria Xirinacs (1932–2007), gan gysylltu dirnadaeth yr awduron hyn o 'gyfanfydedd cychwynnol' â gwaith y nofelydd, yr awdur straeon byrion a’r ymgyrchydd iaith o Iwerddon Máirtín Ó Cadhain (1906–1970).

Cymerodd 3 blynedd i Dr Carlin ysgrifennu’r llyfr ar ôl iddo orffen ei ddoethuriaeth yn Ysgol y Gymraeg. Dechreuodd ei ddoethuriaeth, dan oruchwyliaeth yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost, ym mis Hydref 2016 a’i gorffen ym mis Ionawr 2020.

“Cefais i fewnbwn hynod o werthfawr gan sawl aelod o'r staff ac ar ben hynny, roeddwn i’n ffodus o gael cymorth ariannol gan yr ysgol i gynnal cyfweliad gyda Joseba Sarrionandia yn Hafana ddiwedd 2017,” dywedodd Dr Carlin.

Wrth siarad am yr hyn a’i ysbrydolodd i ysgrifennu’r llyfr, dywedodd Dr Carlin: “Rwy wedi byw mewn 4 gwlad yn Ewrop lle y siaredir iaith leiafrifol neu anwladwriaethol ac roeddwn i'n awyddus i ystyried ysgrifennu mewn 3 o'r ieithoedd hyn yng nghyd-destun y ffaith bod y cysyniad o wahaniaeth yn fyw iawn o hyd yn yr 21ain ganrif tra yr ymddengys ar yr un pryd bod ffenomenau eraill, e.e. cyflymder a chyrhaeddiad technoleg, yn dod â chymunedau o bobl at ei gilydd a oedd gynt yn wasgaredig y naill wrth y llall yn ddaearyddol mewn ffyrdd newydd.”

Mae’r llyfr eisoes wedi’i gyhoeddi ar-lein a bydd y fersiwn brint yn cael ei gyhoeddi ddiwedd Chwefror 2024.

Llongyfarchiadau ar eich llwyddiant, Dr Carlin!

Rhannu’r stori hon