Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiad RemakerSpace yn tynnu sylw at fentrau economi gylchol

29 Chwefror 2024

A man presenting at the open house event.

Yn ddiweddar, croesawyd rhanddeiliaid allweddol i RemakerSpace, canolfan Prifysgol Caerdydd sy'n canolbwyntio ar fentrau economi gylchol, a oedd yn cynnal digwyddiad tŷ agored i arddangos ei chyfleusterau arloesol.

Mae RemakerSpace yn ganolfan ymgysylltu gymunedol, addysg a busnes wedi'i lleoli yn sbarc|spark, Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol, ac sydd newydd ei sefydlu. Mae’n canolbwyntio ar yr economi gylchol ac ymestyn cylch bywyd cynnyrch.

Daeth cydweithwyr o bob rhan o'r brifysgol, y GIG a Llywodraeth Cymru at ei gilydd yn ystod y digwyddiad. Cafodd y rhai a oedd yn bresennol gyfle i gwrdd â thîm RemakerSpace, ac i glywed gan Dr Kersty Hobson, o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, a Dr Tom Powell, Pennaeth Arloesi, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ar sut y gall rhanddeiliaid ddefnyddio'r cyfleuster gwerthfawr hwn.

Bydd arian newydd gan Lywodraeth Cymru yn galluogi RemakerSpace i ehangu'r hyn y mae'n ei gynnig a sicrhau offer arbenigol pellach. Bydd hyn yn helpu'r ganolfan i ymgysylltu cymaint â phosibl â dysgwyr, grwpiau cymunedol, a busnesau, gan ehangu cyrhaeddiad ac effaith y ganolfan.

Dywedodd yr Athro Aris Syntetos, Cyfarwyddwr PARC a RemakerSpace, Ysgol Busnes Caerdydd:

“Roeddem yn falch iawn o groesawu cydweithwyr o’r Brifysgol a rhanddeiliaid allanol, er mwyn trin a thrafod ffyrdd o wneud RemakerSpace hyd yn oed yn fwy perthnasol a defnyddiol. Gyda thrydydd grant diweddar gan Lywodraeth Cymru, rydym yn ehangu ein galluoedd technegol hyd yn oed ymhellach i dyfu ein canolfan yn ganolfan meithrin arloesedd unigryw a chyffrous ar gyfer yr economi gylchol yng Nghymru a thu hwnt."
Yr Athro Aris Syntetos Distinguished Research Professor, DSV Chair

“Mae cynaladwyedd a’r argyfwng hinsawdd yn graidd i weithgareddau Prifysgol Caerdydd. Gydag ehangder yr heriau cynaliadwyedd amgylcheddol sy'n wynebu cymdeithas, mae'r RemakerSpace yn rhoi cyfle gwych i'n myfyrwyr brofi sut y gall busnes a chreadigrwydd gyda'i gilydd gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a chymdeithas. Mae lleoliad RemakerSpace o fewn ysgol fusnes y brifysgol yn atgyfnerthu ymhellach bod cynaliadwyedd yn ganolog i weithgareddau cyflogadwyedd ac entrepreneuraidd a fydd yn sail i’w llwyddiant yn y dyfodol.”
Dr Julie Gwilliam Dean of Postgraduate Studies College of Physical Sciences & Engineering

“Gyda Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), nododd Llywodraeth Cymru yn glir y sefyllfa ganolog sydd gan gynaliadwyedd i’n cenedl. Er bod Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn darparu'r un eglurder i'r gymuned ryngwladol. Mae RemakerSpace yn gweithio i gefnogi’r gwerthoedd hyn drwy roi cyfleoedd i ddiwydiant, cymunedau ac unigolion gael effeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd, gan gefnogi’n benodol y gwaith o sicrhau dyfodol ffyniannus, cydnerth ac iachach i bawb y mae Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn ceisio’u cyflawni.”
Yr Athro Rudolf Allemann Pro Vice-Chancellor, International and Student Recruitment and Head of the College of Physical Sciences and Engineering

Sefydlir RemakerSpace drwy ddyfarniad Cronfa Gyfalaf Economi Gylchol Llywodraeth Cymru, gyda chyfraniad sylweddol gan Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae tîm RemakerSpace hefyd yn cynnwys Dr Daniel Eyers, Cyd-gyfarwyddwr, a Dr Franck Lacan, Rheolwr Technegol. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae RemakerSpace yn cefnogi grwpiau cymunedol, darparwyr addysg a busnesau, cysylltwch â Rebecca Travers, Rheolwr Canolfan RemakerSpace.

Rhannu’r stori hon