Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan i’r Gymraeg yn agor ei drysau

28 Chwefror 2024

dwy ddynes yn gwenu ar y camera
Is-ganghellor, yr Athro Wendy Larner a Rheolwr yr Academi Gymraeg Catrin Jones

Mae gofod pwrpasol sydd â’r nod o feithrin y Gymraeg a’i diwylliant wedi agor i staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Mae Y Lle ar agor i unrhyw un sydd eisiau’r cyfle i weithio, astudio neu gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Wedi’i leoli yn 53 Plas y Parc, bydd yn gartref Academi Gymraeg a Changen Coleg Cymraeg Cenedlaethol y Brifysgol. Bydd gwersi Cymraeg gan Dysgu Cymraeg Caerdydd hefyd yn cael eu cynnal yma.

Yn ogystal â desgiau poeth a chyfleusterau i gynnal cyfarfodydd, bydd man cymdeithasu, lle gall cydweithwyr a myfyrwyr gwrdd mewn awyrgylch Cymraeg.

Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Wendy Larner: “Mae Y Lle yn dangos ymrwymiad y Brifysgol i’r Gymraeg ac yn rhoi cyfle i unrhyw aelod o’r sefydliad – waeth pa mor rhugl y maen nhw – ddefnyddio a gwella eu sgiliau mewn lleoliad pwrpasol. Dwi’n gobeithio y bydd hefyd yn ysbrydoli pobl sy’n mynd yno, lle byddan nhw’n teimlo’n gyfforddus yn defnyddio’r Gymraeg. Yn ogystal â hyn, dwi’n gobeithio y bydd pobl yn gwneud ffrindiau yno, ac yn cynnal y cyfeillgarwch hwnnw a’u perthynas waith bwysig gydag eraill ledled y Brifysgol.”

Y llynedd, derbyniodd yr artist Eric Lesdema arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ymchwilio i beth mae’r Gymraeg yn ei golygu i bobl ledled y Brifysgol. Bydd ei waith celf o dirluniau Cymreig yn addurno tu fewn Y Lle.

Dywedodd Rheolwr yr Academi Gymraeg Catrin Jones: “Mae Y Lle yn ofod croesawgar a chreadigol ac yn ganolbwynt allweddol i waith yr Academi Gymraeg, sydd wedi bod yn ystyried sut y gallwn ni fynd i’r afael ag anghenion pob rhan o’n cymuned Gymraeg yn well.

“Mae’r Gymraeg yn iaith fyw ac yn rhan o wead ein sefydliad. Mae’n bwysig felly ein bod ni’n darparu mannau lle gall pobl defnyddio’r iaith yn rhan o’u gwaith a’i chlywed yn cael ei siarad, ac nid yn unig mewn mannau addysgu ffurfiol. Dwi’n gobeithio y bydd Y Lle yn ysgogi ac yn ysbrydoli pawb yn y Brifysgol, wrth i ni barhau â’n trafodaethau am sut rydyn ni’n datblygu dyfodol y Gymraeg ar ein campws.”

Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Rydyn ni’n hynod o falch y bydd gan Gangen Prifysgol Caerdydd o’r Coleg Cymraeg bresenoldeb mor amlwg yn Y Lle. Mae’r datblygiad yn arwydd o ymroddiad y Brifysgol tuag at addysg cyfrwng Cymraeg ac rydyn ni’n edrych ymlaen i weld hyn yn datblygu ymhellach dros y blynyddoedd i ddod. Mae’n holl bwysig bod gan fyfyrwyr a staff y Brifysgol sy’n siarad Cymraeg leoliad hygyrch ac apelgar i ddysgu, trafod a chymdeithasu yn yr iaith.”

https://www.youtube.com/watch?v=Iuw7INWz-SQ

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw rhoi cyfle i’n myfyrwyr astudio a byw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.