Ewch i’r prif gynnwys

Goruchaf Lys Seland Newydd yn defnyddio ymchwil y gyfraith gan Brifysgol Caerdydd mewn achos newid hinsawdd o broffil uchel

28 Chwefror 2024

A power station in New Zealand

Mae ymchwil gan academydd y gyfraith o Brifysgol Caerdydd wedi'i ddyfynnu gan Oruchaf Lys Seland Newydd mewn dyfarniad a allai effeithio ar y ffordd rydyn ni’n edrych ar newid yn yr hinsawdd a'i effeithiau yn y dyfodol.

Mae ymchwil gan yr Athro Ben Pontin, Pennaeth y Gyfraith rhwng 2012 a 2014, sy’n trin a thrafod mentrau llygru yn ystod y Chwyldro Diwydiannol Prydeinig, wedi’i ddyfynnu yn achos proffil uchel Smith v Fonterra sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers 2020 yn Auckland, Seland Newydd.

Ceisiodd Michael Smith, sy’n un o frodorion Seland Newydd, erlyn nifer o gorfforaethau sy’n allyrru nwyon tŷ gwydr yn 2020 gan ddadlau bod eu cyfraniadau at newid yn yr hinsawdd yn niweidiol ac yn ymyrryd â’i hawliau. Mae’r math hwn o honiad yn cael ei gyfeirio ato’n gyffredin fel camwedd, sef senario sy'n arwain yn annheg at golled neu niwed i berson arall. Honnodd Smith fod y corfforaethau yn gyfrifol am dair camwedd wahanol: niwsans cyhoeddus, esgeulustod, a thorri dyletswydd gofal.

Ar y pryd doedd llysoedd Seland Newydd ddim yn cydymdeimlo i raddau helaeth â honiadau Smith, gan wrthod 2 ohonyn nhw am fod yn annaliadwy.

Serch hynny, mae Goruchaf Lys Seland Newydd bellach wedi penderfynu bod modd cynnal gwrandawiad llawn ar y ffeithiau ar gyfer hawliad preifat yn gysylltiedig â niwsans cyhoeddus mewn perthynas â nwyon tŷ gwydr. Wrth gyrraedd y penderfyniad, nododd y Llys ymchwil yr Athro Pontin.

Dangosodd ymchwil Pontin nad oedd gwaharddebau yn ystod y Chwyldro Diwydiannol wedi atal mentrau llygru ac arwain at golli swyddi, ond yn hytrach eu bod wedi arwain at ddyfeisio technolegau glân, gyda manteision economaidd ac amgylcheddol.

Ysgrifennodd y Cwnsler ar ran yr achwynydd, David Bullock, at yr Athro Pontin gan ddweud “Rwyf wedi mwynhau darllen eich gwaith ar hanes a datblygiad niwsans yn ystod oes Fictoria yn Lloegr yn fawr iawn ac mae wedi bod yn hynod ddefnyddiol yn fy ymchwil fy hun dros y blynyddoedd diwethaf. Roedden ni yn ddibynnol ar eich gwaith yn ein dadleuon gerbron Goruchaf Lys Seland Newydd, ac roeddwn i felly eisiau rhoi gwybod i chi fod y Llys wedi dyfynnu eich gwaith sawl tro.”

Wrth siarad am yr achos dywedodd yr Athro Pontin, “Roeddwn i wrth fy modd yn clywed bod fy ymchwil wedi’i ddefnyddio mewn achos proffil uchel fel hwn sy’n ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd. Mae hyn wir yn cadarnhau proffil rhyngwladol yr Ysgol ym maes cyfraith amgylcheddol. Rwy’n gobeithio ei fod yn annog myfyrwyr sy’n dymuno astudio’r maes hwn eu bod nhw hefyd yn gallu cyfrannu at y maes hwn o’r gyfraith sy’n newid yn gyflym i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau ac achosion cyfreithiol pobl.”

Rhannu’r stori hon