Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilydd yn cyrraedd rhestr fer Cân i Gymru

26 Chwefror 2024

Mae dyn sy'n gwisgo clustffonau yn chwarae bysellfwrdd.
Dr Llewelyn Hopwood

Mae cân un o aelodau o staff Ysgol y Gymraeg wedi cyrraedd rhestr fer Cân i Gymru 2024.

Mae Mêl, cân a gyfansoddwyd gan Dr Llewelyn Hopwood ac Owain Huw, yn un o 8 o ganeuon fydd yn cael eu perfformio yn rownd derfynol y gystadleuaeth ganu ddechrau mis nesaf.

Bydd y caneuon yn cael eu perfformio’n fyw o flaen cynulleidfa a phanel o feirniaid yn Arena Abertawe, y tro cyntaf i’r gystadleuaeth gael ei chynnal yma. Y cyhoedd fydd yn gwylio’r darllediad ar S4C fydd wedyn yn penderfynu pwy fydd yn cipio’r wobr gyntaf ac yn ennill £5,000.

Wrth siarad am ei gân, dywedodd Dr Hopwood: “Mae’n gân fywiog am greaduriaid bywiog: gwenyn! Gwnes innau a’m ffrind mynwesol, Owain Huw, ei chyfansoddi flynyddoedd yn ôl wrth ladd amser un prynhawn ac yn lle ei chadw dan glo, dyma fachu ar gyfle arbennig y gystadleuaeth arbennig hon.

“Roedd y ddau ohonon ni’n arfer ysgrifennu llwyth o ganeuon pan oeddem yn perfformio yn y band Bromas, ac felly er bod Owain yn dal i weithio fel cerddor gyda’r band The Humber Collective, ro’n i’n gweld eisiau ysgrifennu ar y cyd.

Mae dyn sy'n gwisgo sbectol yn chwarae gitâr.
Owain Huw

“Dyma fynd ati felly i lunio ‘Mêl’. Yn gerddorol, mae’n perthyn i fyd funk a disco, ac yn farddonol mae’n gân o fawl i weithgarwch gwenyn.

“Maen nhw’n greaduriaid arbennig sy’n tynnu ynghyd yn feunyddiol, pawb gyda’i rôl i chwarae gan ddyfalbarhau a mwynhau’r gwaith wrth iddynt greu’r melysbeth hwnnw: mêl.”

Bydd rhaglen Cân i Gymru yn cael ei darlledu ar S4C ar nos Wener 1 Mawrth.

Rhannu’r stori hon