Ewch i’r prif gynnwys

Newyddiadurwyr yn talu teyrnged i ddarlithydd a lansiodd fwy na 1,000 o yrfaoedd

26 Chwefror 2024

David English 2
David English

Mae enwau mawr ym myd newyddiaduraeth wedi talu teyrnged i gyn-newyddiadurwr y papurau newydd David English a helpodd i sefydlu Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd.

Yn 74 oed, bu farw David ar ôl cyfnod hir o salwch. Sefydlodd yrfa unigryw yn addysgu newyddiaduraeth yn y Brifysgol. Erbyn 2015, pan ymddeolodd yn bennaeth cwrs newyddiaduraeth y Brifysgol Gyfarwyddwr Papurau Newydd a Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd, roedd wedi helpu mwy na 1,000 o fyfyrwyr dros 35 mlynedd i ddod yn newyddiadurwyr.

Dywedodd yr Athro Richard Tait, un o’i gydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a chyn-Brif Olygydd ITN: “Helpodd i gyflawni dymuniadau Tom Hopkinson ar gyfer Prifysgol Caerdydd, sef sicrhau mai’r Brifysgol yw’r lle gorau yn y wlad i ddysgu sut i fod yn newyddiadurwr.”

Ymhlith y myfyrwyr a addysgodd mae Ian MacGregor o The Sunday Telegraph, Kevin Maguire o’r Daily Mirror, yn ogystal â darlledwyr blaenllaw megis Richard Sambrook o’r BBC (a aeth ymlaen i weithio gydag ef ym Mhrifysgol Caerdydd) a Libby Wiener o ITV.

Dywedodd Dr Matt Walsh, Pennaeth yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant: “Mae David wedi gwneud cyfraniad enfawr at fyd newyddiaduraeth. Gwnaeth ei fanylrwydd a’i garedigrwydd argraff barhaol ar y myfyrwyr a addysgodd, ac mae hyn yn amlwg yn yr holl deyrngedau sydd wedi llifo i mewn gan newyddiadurwyr blaenllaw ers ei farwolaeth. Mae’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn hynod ddiolchgar iddo am sicrhau enw da iddi am fod yn ganolfan sy’n rhoi hyfforddiant rhagorol.”

Graddiodd David o Brifysgol Rhydychen, a gweithiodd i ddechrau ar bapurau newydd rhanbarthol Thomson megis y Belfast Telegraph a The Journal yn Newcastle, ond aeth addysgu a rhoi hyfforddiant newyddiaduraeth a’i bryd yn y pen draw. Gweithiodd i ddechrau ar gyfer Canolfan Hyfforddiant Golygyddol Thomson yng Nghaerdydd ac yna Ganolfan Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd, sef yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant erbyn hyn.

Dywedodd yr Athro Tait: “Roedd David yn newyddiadurwr gwych. Roedd yn gallu adnabod stori dda ac roedd ganddo synnwyr digrifwch drygionus. Cyfrinach ei lwyddiant yw ei fod, yn fwy na dim, eisiau i’w fyfyrwyr gyrraedd y pwynt rhyfeddol hwnnw lle, fel yr arferai ddweud, “rydych chi’n meddwl fel newyddiadurwyr nawr” a hefyd yn ysgrifennu fel newyddiadurwyr – roedd inc coch i’w weld ym mhobman! Gwae unrhyw un a gyflwynodd gopi â ‘that’ ynddo – waeth beth oedd rheolau gramadeg unrhyw un, roedd angen defnyddio ‘which’ neu ddim byd.

“Roedd wrth ei fodd yn gwylio Gleision Caerdydd, yn casáu straeon am gathod ac yn sôn wrth bobl am sgwpiau ei fyfyrwyr, fel yr un a ddatgelodd yr ardal golau coch oddi ar Heol Penarth a gafodd ei goddef gan yr heddlu ar gyfer uwch-gynhadledd y Cyngor Ewropeaidd ym 1998 a thwrnamaint Cwpan Rygbi’r Byd y flwyddyn ganlynol.

“Gweithiais yn agos gyda David am fwy na degawd, ac roedd un foment bob blwyddyn yn crynhoi, i mi, ei gyfraniad at fyd newyddiaduraeth ym Mhrydain. Roedd y foment honno tua diwedd yr ail semester, pan fyddwn yn dod i’w swyddfa a gofyn, mewn ffordd mor ddigyffro â phosibl, sut oedd pethau’n mynd o ran swyddi.

“O ganol pentwr enfawr o bapurau a oedd yn edrych fel pe baen nhw wedi’u rhoi yno ar hap (ond doedden nhw ddim) ar ei ddesg, byddai dalen A4 yn ymddangos. Ar y ddalen hon roedd enwau 25, 28 neu hyd yn oed 30 o ferched a dynion ifanc. Gyferbyn â phob enw roedd manylion lle da i ddechrau eich gyrfa – ystafelloedd newyddion lle roedd David yn gwybod y byddai ei fyfyrwyr yn cael y cymorth gorau posibl. Roedd yn athro gwych ac yn ddyn hyfryd.”

Rhannu’r stori hon