Ewch i’r prif gynnwys

Populous yn ariannu ysgoloriaeth ymchwil PhD ar ddylunio stadiymau a sut mae’n gallu ein helpu i gyrraedd sero net

26 Chwefror 2024

Rydyn ni’n hynod o falch o allu cyhoeddi y bydd Populous yn ariannu ysgoloriaeth ymchwil PhD (amser llawn), gyda’r nod o ddatblygu ddealltwriaeth o sut y mae dylunio, adeiladu a chynnal stadiymau yn gallu ein cynorthwyo i gyrraedd targedau carbon gweithredol a sero net.

Ac yntau’n arweinydd byd-eang ym maes dylunio stadiymau ac arenâu, mae Populous wedi dylunio ac adeiladu mwy na 3,000 o brosiectau ledled y byd dros y deugain mlynedd diwethaf, ac yn eu plith mae Stadiwm Tottenham Hotspur, Stadiwm Wembley, a’r Arena Climate Pledge yn Seattle.

Gan gydnabod bod angen gwneud cynnydd o hyd ar gynaliadwyedd y mathau hyn o adeiladau a sut rydyn ni’n eu gwerthuso, mae Populous wedi dyfarnu’r wobr i gyn-fyfyriwr Prifysgol Caerdydd, Valeska Pack.

Caiff y prosiect hwn ei oruchwylio yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru dan arweiniad Dr Eleni Ampatzi a’r Athro Juliet Davis, lle bydd Valeska Pack yn bwrw ati gyda’r ymchwil PhD hwn yn ddolen gyswllt rhwng yr academyddion a phartneriaid yn y diwydiant.

Mae Ms Pack eisoes wedi gweithio gyda Populous yn y gorffennol, ac mae ganddi dair gradd o Brifysgol Caerdydd, gan gynnwys ein MSc mewn Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol. Bydd hi’n cychwyn ar ei hymchwil doethuriaeth gyda llu o brofiad i’w henw, gan gynnwys gweithio’n bensaer a rheolwr prosiect, a gweithio ar nifer o stadiymau chwaraeon, arenâu, a digwyddiadau rhyngwladol mawr. Bydd profiadau o’r fath yn ei gosod hi mewn sefyllfa eithriadol o gryf i fynd ati gyda’r ymchwil pwysig hwn.

Rhannu’r stori hon