Ewch i’r prif gynnwys

Cyn-fyfyriwr yn yr Ysgol Cerddoriaeth yn ennill gwobr fawreddog theatr gerdd

1 Chwefror 2024

Rachel Walker Mason receives the Stiles and Drew prize.

Mae un o raddedigion yr Ysgol Cerddoriaeth, Rachel Walker Mason, wedi ennill Gwobr Cân Newydd Orau Stiles a Drewe 2023, mewn achlysur yn The Other Palace yn Llundain.

Dyfarnwyd y wobr i Rachel am ei chân “Drown Without Water” o’i sioe gerdd newydd “The Circle”. Mae'r gân hefyd yn ymddangos ar yr albwm Grammy arobryn, “Six”.

Dyfarnwyd y wobr gan fawrion o’r byd theatr gerdd, George Stiles ac Anthony Drewe, awduron Honk, Soho Cinders a Mary Poppins.

Cyd-ysgrifennwyd y gân gyda Nina Sundstrom, ac ysgrifennwyd y sgript ar gyfer y sioe gerdd gan y cyfarwyddwr a'r awdur Eloise Hodder, sydd wedi ennill llawer o wobrau ym myd y theatr.

Yn y gân, mae’r cymeriad yn sôn am ei phrofiad o iselder ôl-enedigol, yn seiliedig ar brofiad Rachel ei hun ar ôl rhoi genedigaeth.

Meddai Rachel: “Mae’n syndod i fi ‘mod i wedi ennill! Dyma'r sioe gerdd gyntaf i fi ysgrifennu. Roedd yn anhygoel cael fy enwebu, ond pan gyhoeddodd Stiles a Drewe y gân fuddugol, roedd yn sioc enfawr.

“Mae’r wobr yn golygu cymaint i fi ac i bob aelod o dîm creadigol “The Circle”. Mae’r wobr yn un bwysig a hir-sefydlog yn y gymuned theatr gerdd felly mae’n rhoi llawer o hyder i ni wrth symud ymlaen gyda’r sioe gerdd.

“Roedd ysgrifennu cân am iselder ôl-enedigol yn anodd, gan fod angen i ni gael y geiriau’n gywir i gyfleu popeth roedd y cymeriad wedi bod drwyddo. Rydw i hefyd wedi dioddef o iselder ôl-enedigol ar ôl geni fy mhlant, felly defnyddiais fy mhrofiad personol i greu’r stori ar gyfer y cymeriad. Dywedodd y beirniaid mai didwylledd y geiriau a'u swynodd, gan eu tynnu i mewn i'r stori.

“Dywedodd y beirniaid fod y gân yn “odidog yn emosiynol” sy’n rhywbeth na fyddaf yn ei anghofio. Dwi’n ceisio cyffwrdd pobl wrth gyfansoddi caneuon, felly roeddwn yn teimlo fy mod wedi gwneud rhywbeth arbennig wrth glywed rhywun yn disgrifio un o fy nghaneuon fel hynny.”

Ers 2008, mae Stiles a Drewe wedi cydnabod caneuon newydd yn y theatr gerdd trwy eu gwobr flynyddol am y ‘Gân Newydd Orau’. Mae’r wobr hon i aelodau Mercury Musical Developments (MMD), ac roedd George ac Anthony yn aelodau gwreiddiol o’r bwrdd.

Rhannu’r stori hon