Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth ryngwladol newydd ar awyrgylchoedd diogel mewn ysbytai

22 Chwefror 2024

Dr Tracey Rosell (centre), with Professor Markus Hällgren and Associate Professor, Sophie Jané, of the Umeå School of Business and Economics, Sweden.

Awyrgylchoedd diogel mewn ysbytai, a all helpu i osgoi niwed i gleifion, yw ffocws astudiaeth ryngwladol newydd dan arweiniad Dr Tracey Rosell yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Gyda Sefydliad Iechyd y Byd yn nodi camgymeriadau meddygol yn un o brif achosion marwolaeth ac anabledd ledled y byd, nod yr ymchwil hon yw deall sut y gall pobl greu awyrgylchoedd diogel.

Mae’n adeiladu ar astudiaeth gychwynnol a gynhaliwyd gan yr Ymchwilydd Ôl-ddoethurol, Dr Tracey Rosell, a amlygodd bwysigrwydd awyrgylch mewn theatrau llawdriniaethau. Dangosodd yr astudiaeth hon fod yr awyrgylch yr oedd pobl yn ei brofi’n effeithio'n uniongyrchol ar eu barn, a sut yr oeddent yn ymddwyn ac yn rhyngweithio â'i gilydd.

Bydd yr astudiaeth newydd hon yn ceisio deall y cydadwaith rhwng awyrgylchoedd a diogelwch mewn rhagor o fanylder. Ei nod yw deall o ble mae awyrgylchoedd 'diogel' ac 'anniogel' yn dod. Mae hefyd yn ceisio deall sut y gellir creu awyrgylchoedd mewn ffyrdd sy'n gwella diogelwch cleifion.

Mae ymchwil blaenorol yn amlygu pwysigrwydd cynyddol y ffactorau hyn i dimau clinigol, a'r problemau sy'n deillio o'r ffaith nad yw gweithwyr y GIG yn teimlo y gallant godi llais am broblemau. Mae arwyddocâd yr ymchwil hon yn cael ei danlinellu gan ddigwyddiadau diweddar fel achos Lucy Letby ac adroddiadau o aflonyddu rhywiol yng Nghymru a Lloegr, gan daflu goleuni ar yr hyn a all ddigwydd mewn awyrgylch lle na gwrandewir ar leisiau.

Meddai Dr Tracey Rosell: “Fe sylweddolais y gall yr awyrgylch y mae pobl yn ei greu mewn theatrau llawdriniaeth gefnogi ein staff rheng flaen i, o bosib, atal niwed i gleifion a gwella eu lles eu hunain a lles eu cydweithwyr. Roeddwn yn awyddus i ddod o hyd i ffyrdd o dynnu sylw at hyn – oherwydd er y gallai timau llawfeddygol fod yn ymwybodol o’u gallu i greu, neu ddinistrio, awyrgylchoedd diogel, nid yw’r potensial i wneud hynny wedi’i nodi na’i fabwysiadu gan yr ysbytai y maent yn gweithio iddynt.”

Ychwanegodd:

“Byddai galluogi pobl i atgynhyrchu awyrgylchoedd diogel yn rhoi ffordd arall inni fynd i’r afael â niwed i gleifion y gellir ei osgoi a gwella’r ffordd rydyn ni’n gofalu am weithwyr gofal iechyd ar y rheng flaen.”
Tracey Rosell

Nod yr astudiaeth newydd yw datblygu ein dealltwriaeth o:

  • awyrgylchoedd diogel a sut maent yn cael eu creu, eu dinistrio, eu hadfer a'u hatgynhyrchu.
  • beth yw canlyniadau creu awyrgylchoedd diogel.

Oherwydd tystiolaeth gychwynnol a oedd yn awgrymu bod gwahaniaethau cenedlaethol o ran creu awyrgylchoedd diogel, bydd yr astudiaeth yn ymchwilio i sut mae arferion a systemau’n amrywio ledled y byd o ran cefnogi neu atal defnydd bwriadol o awyrgylch. Bydd hyn yn helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y GIG, a systemau gofal iechyd gwledydd eraill, i ystyried a allant wella prosesau hyfforddi a gofal ysbytai, er mwyn gwella diogelwch cleifion a lles gweithwyr.

Lansiwyd yr astudiaeth yn ddiweddar yn y symposiwm Ethnography in Extremis a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Umeå, Umeå Sweden ar 7-8 Chwefror 2024.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan a darllen rhagor am yr astudiaeth, cysylltwch â ni.

Rhannu’r stori hon