Ewch i’r prif gynnwys

Rôl Cwnsler y Brenin er Anrhydedd i Athro Cyfraith Ganonaidd

20 Chwefror 2024

Yr Athro Norman Doe
Yr Athro Norman Doe

Mae Ei Fawrhydi'r Brenin wedi penodi Athro Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn Gwnsler y Brenin er Anrhydedd newydd (KC Honoris Causa).

Wedi’i gyhoeddi ym mis Ionawr 2024, bydd Athro’r Gyfraith, Norman Doe, yn cael ei benodi’n KC er Anrhydedd gan yr Arglwydd Ganghellor yn Neuadd San Steffan ym mis Mawrth 2024 ochr yn ochr â 4 KC Anrhydeddus arall. Dyfernir KC er Anrhydedd i'r rhai sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i gyfraith Cymru a Lloegr, y tu allan i ymarfer yn y llysoedd. Bydd 95 o fargyfreithwyr a chyfreithwyr hefyd yn cael eu penodi’n Gwnsler y Brenin (KC) newydd yng Nghymru a Lloegr ar yr un dyddiad.

Mae’r Athro Doe wedi addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd ers 1985 ac mae ganddo CV academaidd helaeth a thoreithiog. Fe yw Cyfarwyddwr sefydlu Canolfan y Gyfraith a Chrefydd, a ddechreuodd yn yr ysgol ym 1998, a fe hefyd yw sylfaenydd rhaglen Cyfraith Ganonaidd (LLM) yr ysgol a ddechreuodd yn 1991.

Enwebwyd yr Athro Doe ar gyfer rôl anrhydeddus KC oherwydd ei waith yn adfywio astudiaeth y Gyfraith Eglwysig yng Nghymru a Lloegr. Bu ei gyhoeddiadau ar y pwnc yn dra dylanwadol, gan gael eu dyfynnu mewn penderfyniadau yn ymwneud â rôl gyfansoddiadol Eglwys Loegr a chyfrannu at adolygu gweithdrefnau disgyblaeth clerigwyr.

Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd yr Athro Doe, “Mae’n fraint fawr cael fy anrhydeddu fel hyn fel un o lawer sydd wedi ymwneud ag adfywio astudiaethau yn y gyfraith eglwysig dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r wobr hefyd yn rhoi'r ysgogiad i mi wella fy ngwaith ymhellach yn y rhyngweithio rhwng y gyfraith a chrefydd. Mae’n faes y mae Prifysgol Caerdydd a’m cydweithwyr niferus sy’n gysylltiedig â’r LLM yn y Gyfraith Ganonaidd a Chanolfan y Gyfraith a Chrefydd wedi rhagori ynddo, ac rwy’n hynod ddiolchgar am eu holl waith caled, eu cefnogaeth a’u teyrngarwch am gyfnod mor hir”.

Mae rhagor o wybodaeth am benodiadau KC eleni ar gael ar gov.co.uk

Rhannu’r stori hon