Ewch i’r prif gynnwys

Llyfr llwyddiannus gan yr Athro Kenneth Hamilton wedi’i gyhoeddi yn Mandarin

19 Chwefror 2024

Mae argraffiad diwygiedig mewn Mandarin o lyfr arobryn yr Athro Kenneth Hamilton, After the Golden Age: Romantic Pianism and Modern Performance, wedi'i gyhoeddi gan Shanghai Music Publishing House.

Cyfieithwyd y fersiwn Tsieineaidd o'r llyfr (黄金时代之后) gan yr Athro Jennifer Ku, cyn-Bennaeth Adran Biano Prifysgol Xiamen, ac mae'n ymuno â chyfieithiadau cynharach i'r Eidaleg a Hwngari.

Cyhoeddwyd After the Golden Age yn wreiddiol gan Wasg Prifysgol Rhydychen, a buan iawn y daeth yn boblogaidd iawn ym myd cerddoriaeth glasurol.

Yn ôl Charles Rosen yn y Times Literary Supplement mae’n “llawn ffraethineb a diddordeb, ac wedi’i ysgrifennu ag angerdd”, ac yn ôl Bernard Holland yn y New York Times mae’n “llyfr hyfryd”. Roedd yn Llyfr y Flwyddyn yn y Daily Telegraph yn y DU, a Theitl Academaidd Eithriadol CHOICE yn yr Unol Daleithiau.

Dywedodd yr Athro Hamilton, “Rwyf wrth fy modd gyda chyheoddi fersiwn Dsieineaidd After the Golden Age, a gyfieithwyd yn fedrus gan yr Athro Ku, a’i gynhyrchu gyda gofal gan Shanghai Music Publishing House.

“Mae yna gyfoeth o dalent gerddorol yn Tsieina, a gobeithio y bydd y llyfr o werth nid yn unig i’r llu o bianyddion dawnus yn y wlad, ond hefyd i’r rhai sy’n hoff o gerddoriaeth Tsieineaidd yn gyffredinol.”

Rhannu’r stori hon