Ewch i’r prif gynnwys

Cylchgrawn Gramophone yn dathlu gwaith y cyfansoddwr o fri yr Athro Arlene Sierra

16 Chwefror 2024

Image of Arlene Sierra

Mae Gramophone, un o gylchgronau cerddoriaeth glasurol fwyaf yn y byd, wedi ysgrifennu erthygl am Arlene Sierra, Athro Cyfansoddi yn yr Ysgol Cerddoriaeth, yn rhan o’u cyfres ‘Featured Composer’.

Yn yr erthygl, mae’r beirniad cerddoriaeth enwog Richard Whitehouse yn trin a thrafod gyrfa gyfansoddi’r Athro Sierra ac yn amlygu sawl darn allweddol. Dyma ddywedodd yr awdur: ‘[Sierra has] come to prominence... through [her] building of a corpus of work whose intrinsic quality is as evident as its sheer consistency of purpose.”

Mae'r erthygl yn trafod gwaith Sierra ym mhob un o brif genres cerddoriaeth glasurol: cerddoriaeth siambr a lleisiol, opera, cerddoriaeth ar gyfer ffilm, a sawl gwaith cerddorfaol. Wrth drafod y concerto piano Art of War a berfformiwyd am y tro cyntaf gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gyda Huw Watkins, dywedodd Whitehouse “..the ground plan of capture and release, resourcefully portrayed across two movements of equal length and weight, offers definite renewal... of the concerto as a genre of meaningful virtuosity.” “Immediate and affecting’ oedd disgrifiad Whitehouse o Two Neruda Odes, gosodiad Sierra o farddoniaeth Pablo Neruda, a dyma beth ddywedodd y beirniad am y gerddoriaeth a gyfansoddwyd gan Sierra ar gyfer ffilmiau Maya Deren: “[they] unerringly convey the balletic grace and seductive danger of the cinematic imagery while functioning effectively as stand-alone works.

Mae gwaith cerddorfaol diweddar yr Athro Sierra, sef Nature Symphony a berfformiwyd gan y BBC Philharmonic, a Bird Symphony a berfformiwyd gan Symffoni Utah, yn cael eu galw’n “suspenseful” a “scintillating” yn yr erthygl hefyd.  “Sheer avian effervescence” oedd disgrifiad Whitehouse o Kiskadee, gwaith diweddaraf Sierra a berfformiwyd gan Symffoni Detroit. Mae'r perfformiad a gynhaliwyd yn Detroit ym mis Hydref 2023 a gafodd ei ffrydio’n byw bellach i'w weld ar-lein.

Mae cerddoriaeth yr Athro Sierra yn ymddangos ar bedwar albwm a ryddhawyd gan Bridge Records ac NMC Recordings gyda dau albwm newydd ar y ffordd, sef albwm newydd o gyfansoddiadau sy’n seiliedig ar ganu adar ac albwm cerddorfaol sydd yn cynnwys ei chyfansoddiadau symffonig diweddaraf. Yn ddiweddar, mae’r Athro Sierra wedi cael ei henwebu am Latin GRAMMY ac wedi derbyn Cymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme.

Gallwch brynu cylchgrawn Gramophone nawr.

Rhannu’r stori hon