Ewch i’r prif gynnwys

Newyddiadurwr Laura Trevelyan i draddodi’r gyntaf yng nghyfres Darlithoedd Syr Tom Hopkinson

14 Chwefror 2024

Laura Trevelyan
Mae'r newyddiadurwr Laura Trevelyan yn cefnogi galwad y Caribî am gyfiawnder paratoadol.

Journalist, reparative justice campaigner and Cardiff University alumna Laura Trevelyan will deliver the inaugural Sir Tom Hopkinson Lecture on Wednesday 6 March 2024.

The talk, ‘Confronting the Past - the importance of acknowledgement and repair’, will discuss why it’s been important for members of the Trevelyan family to confront their ancestors’ past as slaveowners on the Caribbean island of Grenada.

Laura will reflect on the healing power of acknowledgement, and what she has learned during her journey supporting the Caribbean’s fight for reparatory justice.

The Sir Tom Hopkinson Lecture series has been launched to honour the memory and journalistic career of the original founder of , what is today, the School of Journalism, Media and Culture at Cardiff University.

Invited speakers will be encouraged to deliver deliberately thought provoking and timely assessments of popular culture, politics, journalism and the media.

Tom Hopkinson

Bydd y newyddiadurwr, ymgyrchydd dros gyfiawnder unioni a’r cyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, Laura Trevelyan, yn traddodi’r gyntaf yng nghyfres darlithoedd Syr Tom Hopkinson ddydd Mercher 6 Mawrth 2024.

Bydd y cyflwyniad, 'Wynebu'r Gorffennol - pwysigrwydd cydnabod ac unioni’r camwedd', yn mynd i’r afael â pham mae wedi bod yn bwysig i aelodau o deulu Trevelyan wynebu gorffennol eu hynafiaid oedd yn berchnogion caethweision ar ynys Grenada yn y Caribî. Bydd Laura yn myfyrio ar bŵer iachaol cydnabyddiaeth, a'r hyn y mae wedi'i ddysgu yn ystod ei thaith yn cefnogi brwydr y Caribî dros gyfiawnder unioni.

Lansiwyd cyfres Darlithoedd Syr Tom Hopkinson er cof amdano a’i yrfa newyddiadurol ac yntau’n sylfaenwyr gwreiddiol Yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant fel y’i gelwir heddiw, ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd siaradwyr gwadd yn cael eu hannog i gyflwyno asesiadau fydd yn ysgogi’r meddwl ac yn amserol yn fwriadol felly, wrth drin a thrafod diwylliant poblogaidd, gwleidyddiaeth, newyddiaduraeth a'r cyfryngau.

Meddai Laura: "Mae'n anrhydedd cael dychwelyd i Brifysgol Caerdydd, lle cefais fy hyfforddi i fod yn newyddiadurwr, er mwyn traddodi’r ddarlith Syr Tom Hopkinson. Roedd yn ffotonewyddiadurwr arloesol, a gafodd gymaint o effaith gyda'r Picture Post yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel.

"Gan ddilyn traddodiad newyddiaduraeth ymgyrchu Tom Hopkinson, bydd fy narlith yn ymwneud â phwysigrwydd wynebu'r gorffennol. Bydd yn canolbwyntio ar pam y dylai'r DU ystyried ei hanes imperialaidd, cydnabod gwaddol y fasnach gaethweision traws yr Iwerydd, a gosod esiampl drwy drafod cyfiawnder unioni â chenhedloedd y Caribî, yr oedd Prydain wedi’u caethiwo gynt."

Bydd y digwyddiad dan ofal Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd. Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, Dr Matt Walsh, "Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Laura i'n cartref yn Dau Sgwâr Canolog ar gyfer yr achlysur arbennig hwn. Rwy'n gwybod y bydd ein gwesteion, ein staff a'n myfyrwyr yn elwa o glywed yn uniongyrchol am y pwnc pwysig hwn yn y gyntaf yng nghyfres Darlithoedd Tom Hopkinson."

Mae'r digwyddiad yn agored i'r cyhoedd a bydd nifer o ffigyrau amlwg yng Nghymru yn bresennol hefyd, gan gynnwys Aelodau o’r Senedd, Aelodau o Senedd y DU a chynrychiolwyr o ddiwydiannau’r cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus yng Nghymru.

Cofrestwch am y digwyddiad.

The event will be hosted by Cardiff University’s School of Journalism, Media and Culture. Head of School Dr Matt Walsh said, “We look forward to welcoming Laura to our home in Two Central Square for this special occasion. I know that our guests, staff, and students will benefit from hearing first-hand about this important subject in our inaugural Tom Hopkinson lecture.”

The event is open to the public and will also be attended by a range of Welsh-based VIPs including Senedd Members, Members of Parliament and representatives of the Welsh media and PR industries.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan sydd ar flaen y gad ar gyfer addysgu ac ymchwil ym maes y cyfryngau.