Ewch i’r prif gynnwys

Cymrawd gwadd Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol wedi derbyn OBE

14 Chwefror 2024

A woman and a man smiling for a photograph

Mae Cymrawd Gwadd Nodedig o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd wedi derbyn OBE am ei gwaith mewn cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.

Cafodd yr ymgyrchydd gwrth-hiliaeth Usha Ladwa-Thomas y wobr yn rhestr Blwyddyn Newydd y Brenin 2024 sy'n cydnabod cyflawniadau a gwasanaeth pobl nodedig ledled y DU.

Mae ei gwobr am waith cynghori i Lywodraeth Cymru yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, sefydlu Academi Wales a datblygu arweinyddiaeth gyda sefydliadau anllywodraethol drwy Caplor Horizons, Children Watch a Tamil Nadu yn India.

Ym mis Gorffennaf 2023, enillodd Usha Wobr Cyflawniad Oes gan GymdeithasCyflawniad Menywod Cymreig o Leiafrifoedd Ethnig.

Wrth dderbyn ei OBE, dywedodd Usha:

Roeddwn i’n teimlo’n ansicr iawn ynglŷn â derbyn gwobr sy’n gysylltiedig â hanes yr Ymerodraeth Brydeinig, ond am wahanol resymau, gan gynnwys cael y sgwrs hon a’i defnyddio fel llwyfan i wneud mwy o waith ar gyfiawnder cymdeithasol, fe wnes i ddewis derbyn y wobr. Mewn gwirionedd mae’n wobr sy’n perthyn i’r timoedd yr ydwyf wedi gweithio â nhw.

"Yn y bôn mae ganddo werth i mi gan fy mod i'n gallu cael mwy o sgyrsiau ar bob agwedd ar gyfiawnder cymdeithasol, yn enwedig gwaith gwrth-hiliaeth rydyn ni'n ei wneud yng Nghymru.

"Rwy'n teimlo anrhydedd ac yn ostyngedig o gael fy nghydnabod gan fy nghyfoedion, gan gynnwys cydweithwyr o leiafrifoedd ethnig, a Llywodraeth Cymru a wnaeth fy enwebu."

Ychwanegodd yr Athro Emmanuel Ogbonna o Ysgol Busnes Caerdydd:

Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth briodol am oes o ymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb, tegwch a chyfiawnder cymdeithasol. Rwy'n falch bod Usha yn parhau â'i gwaith yn y maes hwn gan fod ganddi gymaint i'w roi o hyd.
Yr Athro Emmanuel Ogbonna Professor of Management and Organizational Behaviour

Cafodd Usha a’i thîm eu cydnabod hefyd gan Wasanaeth Sifil y DU, a dyfarnwyd Gwobr y Gwasanaeth Sifil 2023 iddynt. Arweiniodd Usha y gwaith o ddylanwadu ar Strategaeth Amrywiaeth a Chydraddoldeb mewn Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru a threfnu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn 2022.

Wrth sôn am y Cynllun, dywedodd, "Roedd y Cynllun yn unigryw gan nad oes gan unrhyw genedl arall Gynllun o'r fath ac un sy'n cael ei gyd-gynhyrchu ac sydd â phrofiadau byw pobl wrth wraidd y cynllun.

"Mae wedi cael cefnogaeth arweinyddiaeth uwch gan y Prif Weinidog a'r Cabinet, ac rydym yn cael diddordeb gan lawer o wledydd eraill yn sy’n ein holi ynghylch beth wnaethon ni a sut wnaethon ni ei gyflawni. Mae hefyd yn tystio i’r cydweithio rhwng cydweithwyr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru Prifysgol Caerdydd, swyddogion Llywodraeth Cymru, gwasanaethau cyhoeddus a mentoriaid ac arweinwyr cymunedol sydd wedi gweithio’n galed i gyd-greu rhywbeth unigryw. Gallai’r Cynllun wneud gwahaniaeth gwirioneddol a mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.”

Ar hyn o bryd mae Usha yn Arloeswr Preswyl ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) y brifysgol sy'n eistedd ar ei bwrdd cynghori strategol, ac yn defnyddio'r cyfleuster i ymgymryd â gwaith pellach ar Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Dywedodd Usha, "Rwy'n gobeithio parhau ar fy nhaith i wneud newid lle medraf, i wneud gwahaniaeth mesuradwy i bobl nad oes ganddynt lais, gan gynnwys pobl o leiafrifoedd ethnig, pobl anabl, a phobl dan anfantais economaidd-gymdeithasol ymhlith eraill, yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

"Rwyf wedi ymrwymo i fod yn fyfyriol ac felly yn treulio mwy o amser nawr ar ddeall sut y gallwn greu newid diwylliant mewn sefydliadau mawr.

"Mae fy angen i 'ymuno’r dotiau', i 'bontio ffiniau', i gyd-gynhyrchu, ac mae sut gall polisi helpu wedi fy llywio, ond mae fy ngwreiddiau yn y gwaith wyneb yn wyneb gyda chymunedau , lawer o flynyddoedd yn ôl. Does dim byd tebyg i wrando ar brofiadau byw pobl i lywio newid.

"Rhoddodd Prifysgol Caerdydd sylfaen i mi wrth ddysgu sut i feddwl, felly mae'n wych dychwelyd i fyfyrio ar yr hyn a ddysgais ar ôl graddio mewn Sŵoleg yn 1978!"

Ychwanegodd yr Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr Academaidd SPARK, "Rwy'n falch iawn o Usha wrth iddi dderbyn y gydnabyddiaeth hon am ei holl waith yng Nghymru dros y blynyddoedd, ac yn fwyaf diweddar ar gyfer Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol."

Rydym yn hynod lwcus i gael Usha yn gweithio gyda ni ac yn cefnogi ein gwaith, o ran ei harbenigedd mewn arweinyddiaeth ac wrth helpu i sicrhau y gallwn ddod yn sefydliad gwrth-hiliol.
Yr Athro Chris Taylor Professor

Gallwch ddarganfod mwy am waith Usha o amgylch Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac amrywiaeth a chynhwysiant.

Rhannu’r stori hon