Ewch i’r prif gynnwys

Mae Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl Grangetown yn dychwelyd ar gyfer 2024

14 Chwefror 2024

Wedi'i chynnal gan Borth Cymunedol Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Phafiliwn Grange, nod Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl Grangetown yw codi dyheadau yn y gymuned leol.

Drwy gysylltu preswylwyr â chynghorwyr academaidd a phroffesiynol, mae’r digwyddiad yn rhoi cyfle i siarad â modelau rôl lleol a dysgu rhagor am ystod o bynciau y mae modd eu hastudio, yn ogystal â chael cyngor penodol ar lwybrau addysgol a gyrfaoedd.

Wrth fynd i’r digwyddiadau mae modd cael cymorth un-i-un gyda cheisiadau am swydd neu’r brifysgol, a gall darpar entrepreneuriaid gael cyngor busnes. Mae’r digwyddiad yn cynnig rhywbeth i bawb, o bobl ifanc mewn ysgolion cynradd lleol i oedolion sy’n chwilio am gyfleoedd gwaith neu newid cyfeiriad eu gyrfa.

Hon fydd y nawfed flwyddyn i’r digwyddiad cynyddol boblogaidd gael ei gynnal, ac eleni, diolch i grant gan Gronfa Arian Sefydlu Partneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru, mae’n argoeli i fod yn fwy ac yn well nag erioed. Yn ogystal â phresenoldeb Prifysgol Caerdydd yn y digwyddiad, bydd Coleg Caerdydd a’r Fro, y Brifysgol Agored, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gyd yn cymryd rhan drwy gydol yr wythnos. Wrth fynd i’r digwyddiad bydd modd i unigolion gael y cyfle i gofrestru ar gyfer ymweliad pwrpasol â’r sefydliad o’u dewis ar ddiwrnod olaf yr wythnos, gyda chludiant yn cael ei ddarparu o Bafiliwn Grange ac yn ôl.

Bydd y Gronfa Arian Sefydlu yn cael ei defnyddio i sefydlu rhwydwaith cynghori Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl De Cymru, gyda chynrychiolwyr o sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach lleol yn ogystal ag athrawon ysgol lleol, rhieni a disgyblion. Bydd y rhwydwaith yn cydweithio i gynllunio gweithgareddau Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl, cynghori ar weithgareddau dilynol, a chydweithio ar fentrau sy’n bodoli eisoes. Cafodd y cyfarfod cyntaf ei gynnal ar 31 Ionawr ym Mhafiliwn Grange, gyda 4 o athrawon ysgol yn bresennol ac 11 o ddisgyblion a'u rhieni.

Rhaglen ddigwyddiadau Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl 2024

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal o ddydd Llun i ddydd Gwener ym Mhafiliwn Grange rhwng 3:30pm a 6pm, gyda chyfleoedd i ymweld â phrifysgolion lleol ar y dydd Sadwrn.

Bydd 'thema' i bob sesiwn, a bydd yr wythnos yn edrych fel hyn:

Dydd Llun 4 MawrthCyflwyniad i sesiwn Wythnos Gyrfaoedd
Dydd Mawrth 5 MawrthPynciau ym maes y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Dydd Mercher 6 MawrthPynciau’r Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
Dydd Iau 7 MawrthPynciau ym maes y Gwyddorau Bywyd a Bioleg
Dydd Gwener 8 MawrthSesiwn Gwasanaethau Proffesiynol a Chyflogadwyedd (AD), Llwybrau/Dysgu Gydol Oes a sesiwn cynghori entrepreneuriaid
Dydd Sadwrn 9 MawrthYmweliad â champws sefydliadau Addysgu Uwch ac Addysg Bellach o 10:00 tan 15:00

Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Rhannu’r stori hon