Bwytawyr ffyslyd yn fwy tebygol o ddioddef o’r anhwylder bwyta pica
8 Chwefror 2024
Yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd, mae plant ag anawsterau bwyta (y mae tanfwyta, gorfwyta a bwyta ffyslyd yn eu plith) yn fwy tebygol o ddioddef o pica – anhwylder bwyta sy’n golygu bod rhywun yn bwyta eitemau nad ydynt yn fwyd, fel papur neu sebon.
Mae’r ymchwil newydd, a wnaed ar y cyd â’r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Anhwylderau Bwyta a hefyd yr Uned Ymchwil Anhwylderau Bwyta, Canolfan Seiciatrig Ballerup, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Prifddinas-Ranbarth Denmarc, wedi gwella dealltwriaeth o gyffredinrwydd pica ar adegau gwahanol yn ystod plentyndod a thaflu goleuni ar gyflyrau eraill a welir ochr yn ochr â pica.
Dywedodd Dr Samuel Chawner, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Anhwylder bwyta yw pica. Mae’n golygu bod rhywun yn bwyta sylweddau sydd ddim yn fwyd ac sydd ddim o unrhyw werth maethol, fel papur, sebon, paent, sialc neu iâ. Mae'n anhwylder bwyta difrifol, ond ychydig iawn o ymchwil sydd wedi’i gwneud iddo.
Defnyddiodd yr ymchwilwyr ddata o Astudiaeth Arhydol Avon o Rieni a Phlant – astudiaeth barhaus ar sail poblogaeth o garfan geni a ddechreuodd yn y 1990au er mwyn ymchwilio i’r gwahanol ffactorau sy’n dylanwadu ar iechyd a datblygiad plant. Aeth yr ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ati i ddadansoddi’r data a roddwyd gan fwy na 10,000 o ofalwyr yn rhan o’r astudiaeth honno er mwyn ymchwilio i gyffredinrwydd pica yn y boblogaeth.
Yr hyn a ddaeth i’r amlwg yw bod pica yn fwyaf cyffredin ymhlith plant 36 mis oed – gyda 2.29% o ofalwyr yn dweud bod yr anhwylder yn effeithio ar eu plentyn – a bod pica yn dod yn llai cyffredin wrth i blant heneiddio. Gwelwyd bod plant ag awtistiaeth a phlant y mae oedi datblygiadol yn effeithio arnyn nhw’n fwy tebygol o ddioddef o pica na phlant eraill.
Hefyd, nododd yr ymchwilwyr y gellid cysylltu ymddygiadau sy’n gysylltiedig â pica ag anawsterau bwyta ehangach.
“Nodwyd bod dim cysylltiad rhwng presenoldeb pica a BMI y plentyn. Felly, dylai clinigwyr sgrinio plant o bob pwysau a maint am ymddygiadau sy’n gysylltiedig â pica.
“Dangosodd ein canfyddiadau hefyd fod plant sy’n tanfwyta, yn gorfwyta neu’n ffyslyd yn fwy tebygol o ddioddef o pica, a gallai’r grŵp hwn o blant fod yn un i ganolbwyntio arno er mwyn cadw llygad am ymddygiadau sy’n gysylltiedig â pica. Gallai plant ag awtistiaeth neu blant y mae oedi datblygiadol yn effeithio arnyn nhw hefyd elwa o gael eu sgrinio a chael diagnosis o pica.
“Mae ein hymchwil wedi cyfoethogi ein dealltwriaeth o gyffredinrwydd pica ar adegau gwahanol yn ystod plentyndod yn y boblogaeth gyffredinol. Mae hefyd yn rhoi syniad cliriach i ni o’r cyflyrau eraill a welir ochr yn ochr â pica. Bydd hyn yn helpu clinigwyr i roi cymorth gwell i blant sy’n dioddef o pica, a’u gofalwyr, yn y dyfodol,” meddai Dr Samuel Chawner.
Ychwanegodd Dr Natalie Papini, Prifysgol Gogledd Carolina: “Rydw i’n credu bod yr ymchwil hon yn ein helpu i gymryd un cam yn nes at ddatblygu opsiynau trin mwy teilwredig ar gyfer plant sy’n dioddef o pica, gan fod gennym ni syniad gwell o sut mae’r ymddygiadau hyn yn dod i’r amlwg ac yn parhau drwy gydol plentyndod cynnar.”