Ewch i’r prif gynnwys

Cwricwlwm newydd i genedl newydd

1 Chwefror 2024

SouthSudanMinistryForEducation

Mae Adran Hanes Prifysgol Caerdydd yn cyd-weithio ag adrannau mewn prifysgolion ar draws De Swdan i ail-ddylunio rhaglenni hanes yn sgil rhyfeloedd cartref y genedl newydd.

Gyda chefnogaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, prif ffocws y prosiect hwn fydd llunio cwricwlwm Hanes newydd i wlad fwyaf newydd y byd.

Ers i Swdan ymwahanu o Swdan yn 2011, mae prifysgolion yn Ne Swdan yn ei chael hi’n anodd o hyd ail-lunio hen raglenni’r dyniaethau sy'n canolbwyntio ar y goncwest wladychol a threisgar o Dde Swdan ac yn atgynhyrchu’r hen syniadau hiliol o’r oes o’r blaen.

Mae Dr Nicki Kindersley o Brifysgol Caerdydd a'r Athro Yosa Wawa o Brifysgol Juba yn arwain y prosiect, gan ddwyn ynghyd haneswyr o Gaerdydd a'r pum prifysgol gyhoeddus yn Ne Swdan.

Mae’r rhyfel cartref yn Ne Swdan rhwng 2013 a 2018 wedi tarfu ymhellach ar addysg uwch yn y wlad ac wedi creu anghydfod a hollti dwfn a phoenus rhwng grwpiau ethnig a’r rhanbarthau. Mae’r rhan fwyaf o raddedigion Hanes yn Ne Swdan yn mynd yn eu blaenau i fod yn athrawon a gweithwyr cymorth ar draws De Swdan, a hynny yn ystod gwrthdaro eithafol ac argyfyngau dyngarol.

Croesawodd yr Athro Yosa Wawa y wobr a’r bartneriaeth:

‘Cwricwlwm newydd i genedl newydd yw hwn, a bydd yn dod â chyfleoedd newydd. Ein gobaith yw y bydd ein myfyrwyr yn cyfrannu at gyd-fyw yn heddychlon yn sgil cwricwlwm heriol ar ei newydd wedd yn Ne Swdan.'

Ychwanegodd yr Uwch-ddarlithydd yn Hanes Affrica, Dr Nicki Kindersley:

“Rwy’n hynod falch o fedru gweithio gyda chydweithwyr a ffrindiau hirdymor ym Mhrifysgol Juba i helpu i lunio eu cwricwlwm newydd sy’n arloesol ac yn greadigol. Mae Adran Hanes Prifysgol Caerdydd wedi ail-lunio ein maes llafur yn ddiweddar, ac rwy’n edrych ymlaen at rannu ein profiadau a’n syniadau.”

Gan ehangu ar y cydweithio a wnaed dros 10 mlynedd, bydd y prosiect yn datblygu cwricwlwm hanes newydd am 2 mis, diolch i o gyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a rhagwelir y caiff hyn ei gyflwyno yn 2024-25.

Rhannu’r stori hon