Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Graham Hutchings yn ennill gwobr catalysis moleciwlaidd newydd

5 Chwefror 2024

Professor Graham Hutchings

Mae ein Hathro Regius wedi ennill Gwobr Darlithio Catalysis Moleciwlaidd i ddathlu ei gyfraniad eithriadol i faes catalysis.

Mae'r Wobr Darlithio Catalysis Moleciwlaidd, sy'n anrhydeddu ymchwilwyr rhagorol am eu cyflawniadau amrywiol ym maes catalysis, wedi'i dyfarnu i'r Athro Graham Hutchings CBE, FRS, FRAEng.

Dywedodd yr Athro Hutchings: “Mae’n anrhydedd mawr derbyn y wobr hon ac mae’n gydnabyddiaeth o’r gwaith catalysis rydym wedi bod yn cynnal ym Mhrifysgol Caerdydd”.

Mae'r Athro Hutchings wedi cynnal gwaith arloesol ym maes catalysis aur a chatalysis ocsideiddio dethol yn ystod ei yrfa.

Ei gyflawniad mwyaf nodedig oedd ddarganfod gatalyddion sy’n seiliedig ar aur er mwyn hydroclorineiddio asetylen. Roedd hwn yn ddatblygiad sylweddol a ddisodlodd gatalyddion mercwri gwenwynig yn y diwydiant PVC enfawr.

Cafodd Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) byd-enwog ei sefydlu gan yr Athro Hutchings, ac mae wedi bod yn allweddol wrth hyrwyddo maes catalysis. Ymhlith ei rolau arwain mae bod yn gyfarwyddwr yn y CCI, Sefydliad Max Planck Caerdydd (FUNCAT) a Chanolfan Catalysis y DU, a bod yn llywydd yn Is-adran Faraday y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Drwy gydol ei yrfa academaidd, mae’r Athro Hutchings wedi goruchwylio dros 200 o fyfyrwyr PhD a mwy na 100 o ymchwilwyr ôl-ddoethurol.

Sefydlwyd y Gwobrau Catalysis Moleciwlaidd yn 2023 gan y cyfnodolyn mawreddog i anrhydeddu arweinwyr sefydledig a thalentau newydd yn y maes gwyddonol hollbwysig hwn.

Rhannu’r stori hon