Ewch i’r prif gynnwys

Cludiant a Chynllunio (MSC) yn cadw cymeradwyaeth gan Cynllunio Cludiant Proffesiynol (TPP)

23 Ionawr 2024

Mae rhaglen Cludiant a Chynllunio (MSC) yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio wedi cadw cymeradwyaeth gan y pwyllgor safonau proffesiynol Cynllunio Cludiant Proffesiynol (TPP).

Mae Cludiant a Chynllunio (MSC) ym Mhrifysgol Caerdydd wedi’i gymeradwyo gan Gynllunio Cludiant Proffesiynol (TPP) ers 2009 ac mae cynfyfyrwyr o'r cwrs wedi mynd ymlaen i sicrhau cydnabyddiaeth broffesiynol fel gweithwyr proffesiynol cynllunio cludiant siartredig (CTPP).

Mae cadw'r gymeradwyaeth TPP yn dangos ymrwymiad yr ysgol i roi’r sgiliau sydd eu hangen ar raddedigion i fwynhau gyrfa lwyddiannus mewn cynllunio cludiant. Mae ennill MSc sydd wedi’i gymeradwyo yn golygu y gall graddedigion y cwrs ddilyn y llwybr safonol i Adolygiad Proffesiynol.

Dyfernir y cymhwyster TPP ar y cyd gan y Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant a'r Gymdeithas Cynllunio Cludiant i gydnabod y lefelau uchel o sgiliau a phrofiad sydd eu hangen ar gynllunwyr cludiant. Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu gallu mewn amrywiaeth o sgiliau cynllunio cludiant proffesiynol a thechnegol.

Gall ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru fel Gweithwyr Proffesiynol Cynllunio Cludiant Siartredig (CTPP), gan gydnabod eu cyflawniad proffesiynol yn erbyn y meincnod nodedig diwydiannol hwn.

Dyma ddywedodd Dr Dimitris Potoglou, arweinydd rhaglen y cwrs “Rydym yn falch o gael ein hachredu gan y Pwyllgor Safonau Proffesiynol TPP yn gwrs Meistr sy’n bodloni’r gofynion gwybodaeth ar gyfer y cymhwyster Cynllunio Cludiant Proffesiynol. Mae hyn yn gydnabyddiaeth sylweddol i'n rhaglen a'n graddedigion.

“Hoffwn ddiolch yn fawr i’r Pwyllgor Safonau Proffesiynol am eu hymdrechion a’u hymagwedd gadarnhaol wrth adolygu ein rhaglen a chynnig argymhellion gwerthfawr. Roedd y broses ymgeisio gyfan yn brofiad gwych!"

Canmolodd y panel ymrwymiad y rhaglen i gyfuno cynllunio cludiant strategol o’r byd go iawn i'r cwricwlwm. Bydd y cwrs yn helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer yr heriau y byddant yn eu hwynebu fel cynllunwyr cludiant.

Dywedodd Cat Goumal, Pennaeth Addysg CIHT, “Rydym yn falch bod yr MSc Cludiant a Chynllunio wedi’i gymeradwyo eto ac edrychwn ymlaen at weld yr effaith y bydd graddedigion y cwrs hwn yn ei chael ar gynllunio cludiant.”

Rhagor o wybodaeth am y Cymhwyster Cynllunio Cludiant Proffesiynol a sut i wneud cais.

Rhannu’r stori hon