Ewch i’r prif gynnwys

Eirioli dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau ym myd mathemateg: Llais yn Nhŷ’r Cyffredin

19 Ionawr 2024

Prachi Sahjwani, myfyriwr PHD yn yr Ysgol Mathemateg

Mae myfyrwraig PhD o Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd yn gwneud gwahaniaeth ym myd mathemateg ar ôl iddi gynrychioli Cyngor y Gwyddorau Mathemategol a Chymdeithas Fathemategol Llundain.

Yn nigwyddiad diweddar Llais y Dyfodol 2023 a gynhaliwyd yn Nhŷ’r Cyffredin, cafodd y myfyriwr Prachi Sahjwani y cyfle i ofyn cwestiwn pwysig i ffigurau gwleidyddol o bwys.

Aeth Prachi i'r afael â'r gwahaniaethau rhwng y rhywiau ym maes mathemateg, maes a ddominyddir yn draddodiadol gan ddynion.

Gan ddefnyddio ystadegyn, soniodd Prachi fod 89% o athrawon mathemateg yn y DU yn ddynion yn ystod 2017/2018, o’i gymharu â dim ond 11% o fenywod.

Yn ychwanegol, tynnodd Prachi sylw at y nifer y menywod sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o ran gwobrau mathemategol, gan gynnwys Medal Fields, a ystyrir yn aml yn Wobr Nobel byd Mathemateg.

Roedd y cwestiwn yn mynd i wraidd achosion sylfaenol y gwahaniaethau hyn a galwodd am gamau gweithredu pendant i unioni'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau ym myd mathemateg.

Mae’r rhan a gymerodd Prachi yn y digwyddiad yn tanlinellu ei hymrwymiad i feithrin amrywiaeth a chynhwysiant ym maes mathemateg, cam hollbwysig tuag at gymuned fathemategol decach a mwy cynrychioliadol.

“Braint oedd cael cynrychioli Cyngor y Gwyddorau Mathemategol a Chymdeithas Fathemategol Llundain yn nigwyddiad Llais y Dyfodol 2023. Mae gwahaniaethau rhwng y rhywiau ym myd mathemateg yn fater o bwys ac mae’n rhaid inni gymryd camau pendant i sicrhau cydraddoldeb a chynhwysiant ym myd mathemateg.”
Prachi Sahjwani, Myfyriwr PhD

Ar hyn o bryd, mae Prachi yn gwneud PhD ym maes Dadansoddi Geometrig ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau geometrig.

Rhannu’r stori hon