Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr yn derbyn £680mil i greu model 3D o nerf synhwyro’r esgyrn

18 Ionawr 2024

Woman suffering with pain in her wrist

Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn datblygu model o nerf synhwyro’r esgyrn i ddod o hyd i dargedau moleciwlaidd newydd a chyn-brofi cyffuriau i drin poen.

Mae’r Prif Ymchwilydd, yr Athro Deborah Mason, a’r Cyd-Ymchwilwyr Mr Ryan Jones a Dr Sophie Gilbert wedi derbyn grantiau gwerth cyfanswm o £663,628 i ddatblygu model 3D o nerf synhwyro’r esgyrn dynol, sy'n cyfuno osteocytau a chelloedd nerfol sy'n deillio o iPSC mewn matrics 3D.

Er mwyn cael gwybod rhagor am ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i amnewid anifeiliaid a gwella a lleihau’r defnydd o anifeiliaid wrth wneud ymchwil, darllenwch ein tudalennau ar onestrwydd a moeseg ymchwil.

Mae dros 562 miliwn o gleifion ledled y byd yn profi poen sy'n deillio o’u hesgyrn, ac mae'n hynod o anodd ei reoli a'i atal. Ymhlith yr anhwylderau sy'n gysylltiedig â phoen sy'n deillio o’r esgyrn yw metastasis canser, torasgwrn nad yw'n gwella, torasgwrn osteoporotig, ac osteoarthritis.

Dywedodd yr Athro Deborah Mason: “Mae angen triniaethau poen mwy effeithiol i drin osteoarthritis ar frys. Bydd fy arbenigedd i ac arbenigedd Dr Sophie Gilbert mewn modelau o osteoarthritis yng nghelloedd ac yn anifeiliaid, ynghyd â gwaith Jones yn datblygu model nerf synhwyro dynol yn creu model celloedd nerfau’r esgyrn dynol newydd i ddysgu sut mae poen esgyrn yn digwydd, adnabod a phrofi cyffuriau newydd i drin poen, a lleihau arbrofi ar anifeiliaid.”

Mae Orthopaedic Research UK wedi rhoi £47K arall at ddibenion defnyddio'r model esgyrn-nerf synhwyraidd 3D i nodi gwahaniaethau mewn sut mae dynion a menywod yn teimlo poen.

Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn bwriadu defnyddio'r model 3D i ymchwilio i fecanweithiau sy'n cysylltu newidiadau yn adeiledd yr esgyrn â theimlo poen lleol, yn ogystal â phrofi a all y model profi cyffuriau y gwyddys eu bod yn atal poen a dylanwadu ar adeiledd yr esgyrn.

Rhannu’r stori hon