Bydd yr Athro Clair Rowden yn trin a thrafod pwysigrwydd Carmen gan Bizet ar gyfres newydd Sky Arts
28 Medi 2023
Bydd yr Athro Clair Rowden yn trin a thrafod yr opera Carmen ar Musical Masterpieces, cyfres newydd gan Sky Arts.
Bydd y gyfres, a gyflwynir gan Myleene Klass ac Errollyn Wallen CBE, yn cynnwys perfformiadau newydd o The Four Seasons ganVivaldi a berfformir gan Sinfonia Cymru, Carmen gan Bizet a berfformir gan Opera North, a Hebrides Overture gan Mendelssohn a berfformir gan y Gerddorfa Ffilharmonig.
Bydd y gyfres yn trafod technegau'r cyfansoddwyr ac yn ymchwilio i gefndir a chyd-destun y darnau eiconig.
Ystyrir yr Athro Rowden yn un o’r awdurdodau mwyaf blaenllaw ar opera a Ffrainc yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu’n cydweithio â Richard Langham Smith ar gyfer argraffiad newydd o Carmen (Peters Edition), a ddefnyddiodd lawysgrifau, sgoriau perfformio, libretti a llawlyfrau llwyfannu o'r cynyrchiadau gwreiddiol ym Mharis.
Yr Athro Rowden hefyd yw cyd-olygydd y gyfrol Carmen Abroad, sef casgliad sy'n ymdrin â'r ffyrdd gwahanol y mae Carmen wedi cael ei pherfformio, ei chynhyrchu, ei lledaenu a'i dehongli ledled y byd. Drwy astudio perfformiadau o'r opera ar draws y byd dros gyfnod o saith deg o flynyddoedd, mae'r gyfrol yn herio'r rhagdybiaethau bod perfformiadau y tu allan i Ewrop rywsut yn waeth. Wrth wneud hynny, mae'n ailfodelu hanes opera gan ar sail ffenomen ddiwylliannol fyd-eang.
Arweiniodd prosiect Carmen Abroad at wefan ryngweithiol, sy'n mapio hanes perfformiadau’r opera ledled y byd, o'i berfformiad cyntaf ym Mharis ym 1875 hyd at 1945. Mae'r wefan yn cynnig ffyrdd newydd i gynulleidfaoedd ymwneud â hanes Carmen, a gall y defnyddwyr ddysgu am berfformiadau hanesyddol wrth gyrchu’r data am berfformiadau mewn fformatau testunol, gweledol a chlywedol.
Dyma a ddywedodd yr Athro Rowden: “Carmen yw un o'r operâu a berfformir fwyaf yn y byd heddiw. Mae’r hanes digyfaddawd yn ymdrin â materion megis gweithwyr mudol, gweithgareddau anghyfreithlon, a lladd menywod, yr ymddengys eu bod yr un mor bwysig heddiw ag yr oeddynt ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond yn aml bydd delwedd 'Sbaen y cerdyn gwyliau' yn fwy boblogaidd a dyna sy’n denu’r cynulleidfaoedd dro ar ôl tro i'r theatr.
“Mae deall Carmen, a sut y bu i Bizet, ei libretyddion a'r Carmen gyntaf, Céléstine Galli-Marié ddyfeisio’r opera, a'i hapêl i gynulleidfaoedd dros y 150 mlynedd ddiwethaf, yn hollbwysig i'r diwydiant opera ac i gynulleidfaoedd er mwyn i Carmen a’i pherfformiadau barhau i fod yn berthnasol yn y dyfodol.”
Gallwch chi wylio'r Athro Rowden yn trafod hanes Carmen ar Musical Masterpieces sy’n darlledu ar Sky Arts am 8pm ddydd Llun 2 Hydref.