Ewch i’r prif gynnwys

Albwm diweddaraf cerddoriaeth Liszt gan yr Athro Kenneth Hamilton wedi cyrraedd rhif 1

15 Ionawr 2024

Image of Salon and Stage album cover

Dewiswyd Salon and Stage, sef ail gyfrol yng nghyfres albymau’r Athro Kenneth Hamilton sy’n amlygu cerddoriaeth biano Franz Liszt, yn Best Classical Recording of 2023 gan The Guardian.

Canmolodd y beirniad Andrew Clements glodfori “egni a phersonoliaeth ysgubol” yr albwm, gan nodi bod“gallu Hamilton i gyfuno dawn ar y piano ag athrylith dechnegol, ynghyd â dealltwriaeth glir o sut y daeth y gerddoriaeth hon i fodolaeth yn gwneud y perfformiadau hyn yn arbennig dros ben.”

Roedd y recordiad hwn hefyd yn gwerthu’n arbennig o dda, gan gyrraedd safle rhif 3 yn Siartiau Clasurol Swyddogol y DU, ac mae wedi cael croeso cynnes gan feirniaid ledled y byd.

Cafodd yr albwm ei lansio mewn cyngerdd yn Amgueddfa Goffa Liszt yn Budapest, ac yn ei sgil, cyhoeddwyd cyfweliad gyda’r Athro Hamilton pan drafododd y ffordd y bydd yn dehongli’r repertoire.

Ymhlith y recordiau y bydd Hamilton yn eu rhyddhau yn 2024 mae albwm sy’n ailddehongli cerddoriaeth Handel yn ôl yr arddull rhamantaidd; ac, yn ddiweddarach y mis hwn, rhyddheir recordiad o draciau gan ei gydweithiwr yng Nghaerdydd, Pedro Faria Gomes, o’r enw Scenes from Childhood.

Rhannu’r stori hon