Diwrnod Mathemateg ym myd Diwydiant yn tynnu sylw at bŵer mathemateg ym meysydd cymhwyso yn y byd go iawn
8 Ionawr 2024
Yn ystod y Diwrnod Mathemateg ym myd Diwydiant cyntaf inni erioed ei gynnal, rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r rôl y mae mathemateg yn ei chwarae mewn ymchwil ac arloesedd a ysgogir gan ddiwydiant, ac a daflodd goleuni ar y cyfraniadau o bwys a wneir gan ein Hysgol.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn Sbarc|Spark, sydd wedi’i leoli yng nghanol campws arloesedd Prifysgol Caerdydd, ac fe ddenodd dros 100 o gyfranogwyr o'r byd academaidd a diwydiant, gan gynnwys cynrychiolwyr o 20 o gwmnïau a sefydliadau allanol.
Bu i’r digwyddiad gychwyn gyda chyflwyniad gan Dr Jonathan Thompson, Pennaeth yr Ysgol, a wnaeth roi trosolwg byr o’r gweithgareddau helaeth sy’n cael eu gwneud yn yr ysgol ym maes addysgu ac ymchwil. Mae'r Ysgol yn cynnig sawl rhaglen addysgu sy'n denu tua 200 o fyfyrwyr israddedig a 200 o fyfyrwyr MSc bob blwyddyn.
Fe wnaeth Dr Katerina Kaouri, Cyfarwyddwr Effaith ac Ymgysylltu, a chydlynydd y digwyddiad, amlinellu’r ymgysylltu a wna’r ysgol â byd diwydiant. Aeth hi ati i fanylu ar y gwahanol lwybrau, gan gynnwys ar y prosiectau diwydiannol israddedig ac MSc, cydweithrediadau PhD, digwyddiadau gyrfa, lleoliadau gwaith, a swyddi a ariennir ar y cyd â diwydiant.
Yna, fe wnaeth tri arweinydd uchel eu parch yn y diwydiant roi cyflwyniadau trawiadol ar y cydweithrediadau llwyddiannus a wnaethant gyda'r Ysgol:
- Bu i Dr Izabela Spernaes o ABCi rannu cipolwg gwerthfawr ar y broses o weddnewid gwasanaethau gofal iechyd, a hynny drwy fodelu mathemategol.
- Gwnaeth Kevin Parry, Prif Swyddog Data Dŵr Cymru, drafod y cydweithio effeithiol rhwng Dŵr Cymru a'r Ysgol, yn bennaf o ran yr heriau yn y gwyddorau data.
- Esboniodd Dan Peck o Crimtan sut mae modelu ystadegol ac algorithmau yn gwella effeithlonrwydd yr hysbysebu a wneir ar-lein.
Yn dilyn hynny, cynhaliwyd trafodaeth banel a sesiwn holi ac ateb bywiog, dan arweiniad yr Athro Paul Harper, lle cyfrannodd y gynulleidfa atynt gan ofyn cwestiynau craff.
Ar ôl toriad i bobl allu rhwydweithio â’i gilydd, cafwyd cyflwyniadau gan yr Athro Tim Phillips, yr Athro Maggie Chen, a'r Athro Jon Gillard, sy'n arwain y grŵp Mathemateg Gymhwysol a Chyfrifiadurol, grŵp Mathemateg Ariannol, a'r grŵp Ystadegau, ynghylch yr enghreifftiau amrywiol o’r ymchwil effeithiol a wneir yn yr Ysgol, lle bu’r Athro Owen Jones (Dirprwy Gyfarwyddwr Effaith ac Ymgysylltu) gadeirio’r sesiwn honno.
Cafwyd hefyd gyfres o sgyrsiau sydyn gan yr Athro Rhyd Lewis, yr Athro Owen Jones, a Dr Geraint Palmer, a ychwanegodd at awyrgylch y digwyddiad. Daeth y diwrnod i ben gyda chinio a sesiwn rhwydweithio estynedig, gan roi cyfle i'r cyfranogwyr ymgysylltu ymhellach a thrafod cydweithrediadau posibl. Drwy gydol y digwyddiad, roedd yna hefyd arddangosfa o bosteri gan ymchwilwyr gyrfa gynnar er mwyn iddyn nhw fedru arddangos eu hamryw o gydweithrediadau â’r byd diwydiant.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y tîm Effaith ac Ymgysylltu yr Ysgol Mathemateg.