Ewch i’r prif gynnwys

Dwy o chwe Ysgoloriaeth Meistr a ddyfarnwyd i ymgeiswyr Caerdydd

8 Ionawr 2024

Royal Historical Society MA History scholarships

Dwy o chwe Ysgoloriaeth Meistr a ddyfarnwyd i ymgeiswyr Caerdydd

Eleni mae'r Gymdeithas Hanes Frenhinol wedi dyfarnu un o bob tri o'i Ysgoloriaethau Meistr i fyfyrwyr sy'n dilyn MA Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd.

Wrth ymgymryd ag astudiaeth MA Hanes yng Nghaerdydd, Nawajesh Khan (Hanes, BA, 2023) a Charlotte Willis (Hanes yr Henfyd a’r Oesoedd Canol, BA, 2023) yw’r ddau ymhlith yr ail garfan i dderbyn yr ysgoloriaethau mawreddog.

Mae cymorth ariannol a’r gael i fyfyrwyr o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd mewn hanes academaidd o’r Gymdeithas Hanes Brenhinol.

Trwy gynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sydd heb y modd ariannol i astudio tuag at radd Meistr mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar gyfnod cynnar allweddol yn hyfforddiant academaidd ymchwilwyr y dyfodol.

Mae'r ddau dderbynnydd ysgoloriaeth wedi mynegi eu diolch am y cyfleoedd a ddaw yn sgil hyn.

Dywed y derbynnydd Nawajesh Khan:

“Rwyf yn teimlo dewrder a hyder i fynd ati i gyflawni fy mreuddwydion gyda’r ysgoloriaeth hon, gan arbenigo mewn chwyldroadau’r bedwaredd ar bymtheg ganrif a hanes gwleidyddol yr ugeinfedganrif. Meysydd allweddol o ddiddordeb ymchwil: Hanes cymdeithasol, Y Tro Digidol a Hanes Emosiynau. Rwyf hefyd wedi ennill lleoliad ymchwil yn Y Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU fel Cynorthwyydd Ymchwil. Rwy’n hynod o ddiolchgar am yr Ysgoloriaeth hon ac i fod yn aelod ôl-raddedig o’r Gymdeithas Hanes Frenhinol.”

Ychwanegodd y cyn-fyfyriwr Charlotte Willis:

'Gyda’r ysgoloriaeth hon gallaf ymgymryd â chyfleoedd a fydd yn cyfoethogi fy ymchwil, a fy ngalluogi i rwydweithio ag arbenigwyr o bob rhan o'r byd a fydd sicr i gael effaith hynod fuddiol ar fy astudiaethau. Mae’r wobr wych hon yn agor cymaint o ddrysau i ddarpar ysgolheigion, ac yn un yr wyf yn hynod o ddiolchgar i dderbyn.'

Wedi’i sefydlu yn 2022, mae cynllun y Gymdeithas Hanes Frenhinol yn ceisio mynd i’r afael â thangynrychiolaeth ac annog myfyrwyr Du ac Asiaidd i ystyried ymchwil academaidd mewn Hanes.

Cefnogir Ysgoloriaethau Meistr RHS 2023/24 yn garedig ganYmddiriedolaeth Elusennol Thriplow a’r Past & Present Society gan alluogi cyfanswm o 6 ysgoloriaeth werth £5,000 a fydd o fantais i haneswyr sydd i ddod yn ystod y flwyddyn hon.

Rhannu’r stori hon