Ewch i’r prif gynnwys

Dod â busnes yn fyw i ddisgyblion ysgol lleol

8 Ionawr 2024

Ymwelodd plant o ysgol gynradd leol ag Ysgol Busnes Caerdydd i gymryd rhan mewn digwyddiad 'Diwrnod ym Mywyd Person Busnes', gan ddod â busnes yn fyw mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn rhan o raglen Pasbort i'r Ddinas Cyngor Caerdydd, gyda Phrifysgol Caerdydd yn cymryd rhan fel partner.  Mae'r rhaglen yn sicrhau y gall pobl ifanc o bob cefndir fwynhau'r cyfleusterau o'r radd flaenaf sydd gan Gaerdydd i'w cynnig.

Yn ystod yr ymweliad, cyflwynodd academyddion o Ysgol Busnes Caerdydd 3 sesiwn i'r plant, gan alinio'r themâu â ffocws presennol yr ysgol gynradd ar agwedd Menter y cwricwlwm. Cymerodd 50 o ddisgyblion o flwyddyn 6 Ysgol Gynradd Windsor Clive yn Nhrelái, Caerdydd, ran.

Ar gyfer y gweithgaredd cyntaf, defnyddiodd y disgyblion ystafell fasnachu a chyfleuster marchnad stoc yr ysgol fusnes. Dan arweiniad yr Athro Qingwei Wang, roedd Cystadleuaeth Fasnachu Draig Cymru yn cynnwys disgyblion yn paru ac yn dod yn ddadansoddwyr buddsoddi a chyfryngau mewn gêm efelychu masnachu. Fe wnaethon nhw benderfyniadau buddsoddi a’r tîm buddugol oedd yr un gyda'r mwyaf o elw ar ddiwedd y gêm.

Pupils in the trading room

Dywedodd yr Athro Qinwei Wang : "Ein nod oedd cyflwyno'r disgyblion i fyd cyllid mewn modd hwyliog a gafaelgar. Roedd y gemau masnachu stoc hyn yn caniatáu iddynt ddatblygu diddordeb mewn cyllid a sgiliau gwneud penderfyniadau ariannol. Gwnaethon nhw ddangos greddfau ariannol trawiadol a'r gallu i wneud dewisiadau strategol. Mae talentau ariannol y disgyblion wedi creu argraff fawr arnaf, er eu bod yn ifanc."

Mewn gweithgaredd arall, cymerodd myfyrwyr rôl rheolwyr cadwyn gyflenwi ar gyfer creision. Arweiniodd Dr Nadine Leder nhw trwy broses y gadwyn gyflenwi creision a defnyddiodd myfyrwyr LEGO i archwilio'r heriau a fyddai'n codi yn eu rôl fel rheolwyr cadwyni cyflenwi.

Hefyd, arweiniodd Dr Katherine Parsons sesiwn i'r myfyrwyr ar frandio, lle buont yn cymryd rhan mewn trafodaethau am y logos a'r gwerthoedd brand sy'n gysylltiedig â brandiau cartref amlwg.

Darllenwch fwy am gynllun Pasbort i'r Ddinas.

Rhannu’r stori hon