Ewch i’r prif gynnwys

Papur ar y Llinellau aneglur o ran proffesiynoldeb ym maes Deintyddiaeth

2 Ionawr 2024

Photo by Andrea Piacquadio

Yn ein papur diweddaraf a gyhoeddwyd yn y British Dental Journal (BDJ), rydyn ni’n trin a thrafod proffesiynoldeb ym maes deintyddiaeth, gan ganolbwyntio ar ddiffinio’r ffiniau a nodi esgeulustra mewn ymddygiad proffesiynol.

Er bod y rhan fwyaf o’r lenyddiaeth yn cwmpasu ac yn ymdrin â diffinio, portreadu, ac addysgu proffesiynoldeb, mae ein papur yn ffocysu ar yr hyn sy'n gyfwerth ag ymddygiad amhroffesiynol neu'r ffactorau hynny sy'n codi amheuaeth ynghylch proffesiynoldeb y deintydd.

Nodwyd mai ymddiriedaeth y claf yw’r elfen bwysicaf sy'n dylanwadu ar ein hamgyffrediad o broffesiynoldeb, a chan ystyried y ffordd y mae ymddiriedaeth yn cael ei sefydlu rhwng deintyddion a chleifion, mae hyn yn esbonio'r amwyster a’r cryn drafferth a ddaw wrth geisio diffinio proffesiynoldeb.

Dengys ein dadansoddiad o 772 o ymatebion testun agored gan weithwyr deintyddol proffesiynol a'r cyhoedd a gasglwyd mewn arolwg ar-lein fod cleifion yn ymddiried ym mhroffesiynoldeb eu deintyddion yn seiliedig ar ymddygiad sy'n dylanwadu'n uniongyrchol ar ofal clinigol neu ffiniau cyfreithiol ac agweddau ar gymeriad cynhenid ac uniondeb y deintydd.

Rydym yn cloi’r papur drwy argymell dull o broffesiynoldeb sy'n adlewyrchu ymarfer clinigol y deintydd – un sy'n cynnwys rhyngweithio dysgedig a phwrpasol, law yn llaw â barn broffesiynol a myfyrio parhaus. Pwysleisiwn yr angen am ddealltwriaeth gyfannol o broffesiynoldeb sy'n mynd y tu hwnt i safonau clinigol, gan gydnabod effaith cymeriad unigol y deintydd ar ein hamgyffrediad o ymddiriedaeth.

Mae’r papur ar gael i’w lawrlwytho nawr.

Rhannu’r stori hon