Ewch i’r prif gynnwys

Archwilio'r cysylltiad rhwng gwybodaeth genetig ac iselder a gorbryder

16 Hydref 2023

Anhwylderau emosiynol, fel iselder a gorbryder, yw'r math mwyaf cyffredin o broblemau iechyd meddwl sydd gan bobl ifanc. Mae yna bapur newydd wedi ceisio deall a allai gwybodaeth genetig pobl helpu i ragweld eu tebygolrwydd o brofi sawl cyfnod o iselder a gorbryder.

Bydd rhai pobl ag anhwylderau emosiynol ond yn profi un bennod o iselder a/neu orbryder, ond bydd eraill yn mynd ymlaen i gael cyfnodau ychwanegol a allai effeithio arnynt yn y tymor hir. Ar hyn o bryd mae'n anodd rhagweld pwy fydd yn profi pylau rheolaidd, ond mae adnabod yr unigolion hyn yn bwysig er mwyn sicrhau ymyrraeth amserol a phriodol. 

Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn gwneud gwaith i ddeall y cysylltiadau rhwng geneteg ac iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc.

Dywedodd Dr Charlotte Dennison, prif awdur y papur: "Fe wnaethon ni edrych a oedd pobl ifanc ledled y DU erioed wedi profi iselder a gorbryder penodol rhwng 5 a 25 oed. Roedd gan 12% o'r bobl a gafodd eu cynnwys yn yr astudiaeth un pwl, roedd gan 14% sawl pwl, ac ni gafodd 74% o bobl unrhyw bylau.

Mae hi’n esbonio: "Fe wnaethom fesur rhagdybiaeth genetig pobl i wahanol gyflyrau iechyd meddwl a niwroddatblygiadol, wedi'i grynhoi fel sgôr genetig. Gall sgôr genetig uwch ddangos mwy o siawns o brofi cyflwr penodol ond nid yw'n gwarantu y bydd person yn ei ddatblygu a’i peidio. Fe wnaethom fesur a oedd sgoriau genetig yn gysylltiedig â chael un neu fwy o gyfnodau o iselder neu gorbryder o'i gymharu â dim pwl, a chael nifer o bylau o'i gymharu ag un pwl."

Darganfyddodd yr astudiaeth fod sgoriau genetig uwch i iselder, gorbryder, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) ac anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn gysylltiedig â chael o leiaf un pwl o anhwylder emosiynol, o'i gymharu â chael dim pylau.  

Fodd bynnag, nid oedd sgoriau genetig yn wahanol rhwng pobl ag un pwl o'i gymharu â sawl pylau. Cyfunodd ymchwilwyr sgoriau genetig â gwybodaeth arall a allai fod yn berthnasol, megis cael hanes teuluol o iselder neu gael diagnosis o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) neu anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, i weld a allai hyn wella ein gallu i ragweld pwy fyddai'n profi sawl pwl o anhwylder emosiynol. Fe wnaeth y tîm ddarganfod nad oedd sgoriau genetig ar gyfer iselder yn helpu i ragweld pwy fyddai'n profi anhwylder emosiynol cylchol.

"Mae ein canfyddiadau'n awgrymu na ddylid defnyddio sgoriau genetig ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl fel dyfais i asesu'r tebygolrwydd o bylau rheolaidd mewn person ifanc yn profi eu pwl cyntaf o anhwylder emosiynol."
Dr Charlotte Dennison Research Assistant, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Roedd y papur,”Stratifying early-onset emotional disorders: using genetics to assess persistence in young people of European and South Asian ancestry “,wedi ei gyhoeddi yn y Journal of Child Psychology and Psychiatry

Rhannu’r stori hon