Ewch i’r prif gynnwys

Lansio rhaglen ysgoloriaethau cymhwysol PhD yn y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol

20 Rhagfyr 2023

Smiling woman listening to headphones

Mae Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd wedi lansio rhaglen ysgoloriaethau cynhwysol newydd i gyflymu’r gefnogaeth a ddarperir, a gwella cyfleoedd i’r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Bydd y rhaglen ysgoloriaethau yn hyrwyddo buddion gyrfa ymchwil i gymunedau mwy amrywiol, gan greu lle i leisiau lleiafrifol neu ymylol a safbwyntiau newydd.

Mae yna 2 opsiwn ar gael i ymgeiswyr:

  • Gwneud cais am brosiect a bennwyd ymlaen llaw ar thema/pwnc penodol.
  • Gwneud cais am y gystadleuaeth agored gan gyflwyno cynnig ymchwil unigol eu hunain.

Mae'r 10 prosiect a bennwyd ymlaen llaw yn cynnwys academyddion o bob ysgol academaidd ac arbenigeddau ymchwil y coleg. Ymhlith y themâu a gynrychiolir mae anghyfiawnderau diagnostig iechyd meddwl, mannau cynhwysol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, troseddoli pobl ifanc yn Ne Cymru, ac amrywiaeth a chynhwysiant yn y diwydiannau creadigol.

"Gan ein bod ni’n sefydliad sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn yn ein cymunedau cyfoethog a bywiog, mae'n hanfodol bod Prifysgol Caerdydd yn adlewyrchu ac yn dathlu'r amrywiaeth sydd o'n cwmpas, ac sy’n ein cyfoethogi ni. Rhaid i addysg uwch a'r byd academaidd fod o fewn cyrraedd pawb. Yn anffodus, ac yn rhy aml, nid hyn yw’r realiti.

"Drwy ein rhaglen ysgoloriaeth PhD gynhwysol newydd sbon, rydym am gymryd camau i geisio mynd i'r afael â rhai o'r pryderon hyn. Mae'r prosiectau a nodwyd yn adlewyrchu rhai o'r materion mwyaf dybryd y mae angen ymchwilio iddynt a'u deall yn well, tra bydd yr alwad agored am gynigion prosiect yn dod â materion a phryderon ehangach i’r amlwg gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym wedi ein hymrwymo i hyrwyddo'r lleisiau a'r safbwyntiau newydd hyn.

"Drwy'r rhaglen ysgoloriaeth hon a thrwy well cynrychiolaeth o’n cymuned ymchwil, gallwn ddyfnhau’r ddealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu’r gymdeithas. Gyda'n gilydd, mae newid cadarnhaol a pharhaol yn bosibl, a gwnawn ymdrech bob amser i chwarae ein rhan yn hynny."

Bydd pob ysgoloriaeth yn talu’r ffioedd dysgu ac yn darparu ariantal am hyd at 4 blynedd yn unol â chyfraddau Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI). Bydd y rhai sy’n derbyn ysgoloriaeth hefyd yn gymwys i gael grant hyfforddiant a chymorth ymchwil yn unol â'r grant cymedrig a ddarperir ar draws Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (£1300). Bydd £2,000 ychwanegol ar gael i gefnogi'r nifer sy'n manteisio ar interniaethau heb dâl/cyflog cymedrol.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 28 Mawrth 2024 ac mae manylion llawn am y rhaglen ysgoloriaethau, cyllid, meini prawf cymhwysedd a’r ffurflenni cais ar gael ar ein gwefan.

Rhannu’r stori hon