Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Byd-eang IChemE 2023

20 Rhagfyr 2023

Dr Alberto Rodan Martinez at the IChem Awards
Dr Alberto Rodan Martinez (second from left) at the IChemE 2023 Global Awards ceremony.

Mae Gwobrau Sefydliad y Peirianwyr Cemegol (IChemE) yn cael eu cydnabod yn eang fel gwobrau peirianneg gemegol mwyaf mawreddog y byd.

Mae Dr Alberto Roldan Martinez, Uwch Ddarlithydd mewn Cemeg Gatalytig a Chyfrifiadurol yn rhan o Dîm Cemeg Gylchol UKRI (CircularChem) a enillodd y Wobr Cynaliadwyedd fawreddog, a chafodd tîm arall yn Sefydliad Catalysis Caerdydd ganmoliaeth uchel yn y Categori Prosiect Ymchwil.

Mae CircularChem yn dod â rhanddeiliaid ynghyd o'r byd academaidd, diwydiant, y llywodraeth, cyrff anllywodraethol a'r cyhoedd i drawsnewid diwydiant cemegol £32 biliwn y DU yn economi gylchol gynaliadwy.  Yn ogystal ag ennill y Wobr Cynaliadwyedd, roedd CircularChem hefyd yn rownd derfynol y categori Tîm.

Dywedodd Dr Roldan: “Mae’n anrhydedd i ni dderbyn y Wobr Cynaliadwyedd fawreddog gan IChemE, sy’n dyst i ymroddiad a dyfeisgarwch cyfunol tîm CircularChem a’n partneriaid gwerthfawr. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn ein hysbrydoli i barhau i arloesi gyda datrysiadau cynaliadwy, ysgogi newid cadarnhaol, a meithrin economi gylchol ar gyfer dyfodol gwell a gwyrddach”.

Mae tîm CircularChem yn chwarae rhan flaenllaw wrth fynd i'r afael â'r heriau cenedlaethol a byd-eang o leihau allyriadau carbon. Nod y tîm  yw sicrhau diogelwch adnoddau nid yn unig o fewn y diwydiant cemegol ond hefyd mewn ystod ehangach o sectorau a chymunedau sy'n defnyddio, dosbarthu ac ailgylchu cynhyrchion cemegol. I gyflawni hyn, maent wedi datblygu map ffordd ar gyfer Economi Gylchol Cemegau sy'n cynnwys ymchwil ar dechnolegau galluogi, integreiddio prosesau, optimeiddio system gyfan, ac agweddau polisi, cymdeithas a chyllid.

Cafodd y tîm o Ganolfan Max-Planck-Caerdydd ar Hanfodion Catalysis Heterogenaidd (FUNCAT), a leolir yn Sefydliad Catalysis Caerdydd, ganmoliaeth uchel yn y Categori Prosiect Ymchwil.

Dywedodd prif awdur yr astudiaeth, Dr Richard Lewis, FUNCAT, sydd wedi’i leoli yn Sefydliad Catalysis Caerdydd: “Rydym wrth ein bodd bod ein gwaith wedi cael ei gydnabod gan IChemE am ei botensial i greu newid mawr i gemeg ocsideiddio diwydiannol. Mae ein technoleg yn dangos yn glir sut y gellir gwneud cynhyrchu cemegolion yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain trwy gydweithio academaidd a diwydiannol agos, gan sicrhau defnydd effeithlon o adnoddau cyfyngedig."

Mewn cydweithrediad â phartneriaid UBE Corporation a Phrifysgol Shanghai Jiao Tong, mae'r tîm wedi datblygu dull newydd sbon o greu cyclohexanone oxime - rhagflaenydd mawr i'r deunydd plastig Nylon-6.

Yn ddeunydd adeiladu allweddol a ddefnyddir yn y diwydiannau modurol, awyrennau, electronig, dillad a meddygol, disgwylir i 9M tunnell o Nylon-6 gael ei gynhyrchu yn flynyddol erbyn y flwyddyn 2024; mae hyn wedi sbarduno gwyddonwyr i chwilio am ffyrdd gwyrddach, mwy cynaliadwy o gynhyrchu cyclohecsanon ocsim.

Ar hyn o bryd, mae cyclohexanone oxime yn cael ei gynhyrchu'n ddiwydiannol trwy broses sy'n cynnwys hydrogen perocsid, amonia a'r catalydd titanosilicate-1. Mae angen crynhoi'r hydrogen perocsid, ei gludo ac yna ei wanhau cyn ei ddefnyddio mewn adwaith cemegol, gan wastraffu llawer iawn o egni i bob pwrpas.

Mae’r dechnoleg a ddatblygwyd gan dîm Caerdydd yn cynhyrchu hydrogen perocsid yn y fan a’r lle, sy’n cystadlu â pherfformiad y dull diwydiannol presennol, ac, am y tro cyntaf, mae wedi datgysylltu’r synthesis o gemegyn nwydd mawr o’r llwybr diwydiannol i hydrogen perocsid gan gyflawni gostyngiadau sylweddol mewn costau materol ac allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ddiwedd mis Tachwedd, gan arddangos cyflawniadau sefydliadau a thimau ledled y byd sy'n dangos rhagoriaeth mewn peirianneg gemegol, biocemegol a phroses.

Rhannu’r stori hon