Canu carolau Nadolig rhyngwladol yn lledaenu llawenydd yr ŵyl ar draws y brifysgol
19 Rhagfyr 2023
Bu i gydweithwyr ar draws Prifysgol Caerdydd ymgynnull ynghyd i ddathlu'r Nadolig drwy ganu carolau Nadoligaidd rhyngwladol.
Nos Fawrth 5 Rhagfyr, daeth 120 o bobl i'r digwyddiad a gafodd ei gynnal yn Neuadd Gyngerdd yr Ysgol Cerddoriaeth.
Cafodd y digwyddiad hwn ei noddi’n garedig gan yr Ysgol Ieithoedd Modern ac fe’i cefnogwyd gan yr Ysgol Cerddoriaeth a’r Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang.
Mae’r sesiwn o ganu carolau Nadolig rhyngwladol yn ddathliad amlieithog y Nadolig yn y Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg, a Lladin.
Fe wnaeth myfyrwyr a chydweithwyr rhyngwladol gyflwyno’r caneuon a'r testunau wrth i fyfyrwyr o'r Ysgol Cerddoriaeth gyfeilio'r carolau. Bu i’r gynulleidfa hefyd fwynhau dau berfformiad cerddorol Nadoligaidd gan fyfyrwyr sy'n astudio cerddoriaeth.
Yn dilyn y digwyddiad, cynhaliwyd derbyniad yn yr Ysgol Cerddoriaeth.
Meddai Dr Jittima Muensoongnoen, aelod o'r Rhwydwaith Staff Rhyngwladol: "Roedd canu carolau Nadolig yn ffordd wych o ddod â’n cymuned amrywiol yn y brifysgol at ei gilydd i fwynhau'r digwyddiad Nadoligaidd hwn. Fe wnaethon ni ganu caneuon mewn sawl iaith gan rannu ein mynegiannau diwylliannol eang o'r tymor hwn â’n gilydd tra’n mwynhau gwin cynnes a mins peis."