Ewch i’r prif gynnwys

Mae’r Athro Jane Lynch yn disgleirio mewn gwobrau rhagoriaeth caffael

19 Rhagfyr 2023

Professor Jane Lynch

Mae'r Athro Jane Lynch, Cyfarwyddwr y Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi ennill Unigolyn y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyfleoedd y Llywodraeth (GO) Cymru 2023, y prif wobrau rhagoriaeth caffael cyhoeddus.

Wedi'i gynnal ym mis Tachwedd 2023, roedd Gwobrau GO Cymru yn cydnabod cyflawniadau a llwyddiannau caffael gorau oll pawb sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Cafodd y gwobrau eu beirniadu gan ffigurau caffael blaenllaw o bob cwr o Gymru a'r DU.

Dathlwyd yr Athro Lynch am ei gwaith fel Cyfarwyddwr y Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus. Nod y ganolfan ymchwil yw tyfu a chefnogi'r gronfa dalent o weithwyr proffesiynol caffael.

Fel Athro Caffael yn Ysgol Busnes Caerdydd, mae Jane yn ymgymryd ag ymchwil amlddisgblaethol a rhyngddisgyblaethol, gan gynnig arbenigedd mewn caffael cyhoeddus, gwerth cymdeithasol, arloesedd mewn caffael, a chydweithio mewn cadwyn gyflenwi. Mae hi'n angerddol am ymgorffori cynaliadwyedd mewn arferion caffael er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

“Roeddwn i'n synnu ond wrth fy modd i dderbyn y wobr fawreddog hon fel academydd. Mae’r rôl hanfodol o gaffael cyhoeddus i gyflawni polisi yn cael ei chydnabod o'r diwedd, ac mae Cymru'n arwain yn fyd-eang mewn sawl maes. Nid oes unrhyw wobr i lawr i ymdrechion un person, a hoffwn ddiolch yn gyhoeddus i'm cydweithwyr a'm timau prosiect am eu cefnogaeth.”
Yr Athro Jane Lynch Professor of Procurement

Mae Cymru wedi arwain y ffordd wrth ddarparu atebion arloesol a chreadigol i'r heriau niferus sy'n wynebu'r sector cyhoeddus. Wrth i gaffael sector cyhoeddus a'i gadwyn gyflenwi gysylltiedig barhau i esblygu, mae Gwobrau GO Cymru yn feincnod pwerus o gynnydd a datblygu.

“Mae Jane, yn ysbrydoliaeth i ni i gyd. Boneddiges garedig a hael sy'n rhannu ymchwil a gwybodaeth yn rhydd er mwyn datblygu'r proffesiwn caffael o fewn Cymru.  Mae'r wobr hon yn haeddiannol iawn a bydd yn cefnogi datblygiad caffael yn y dyfodol ar adeg mor bwysig” meddai Liz Lucas, Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Dywedodd John Coyne, Cyfarwyddwr Caffael a Masnachol Llywodraeth Cymru: “Roedd Jane yn wirioneddol haeddu ei gwobr, a gafodd ei chymeradwyo’n llawn gan y gymuned caffael yng Nghymru.

Mae Jane yn berson sy'n cymryd y rôl arweinyddiaeth o ddifrif er mwyn mynd â chaffael i lefel uwch. Mae hi wedi cael effaith sylweddol ar y proffesiwn caffael yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae Jane yn gyson yn meithrin diwylliant o ragoriaeth, ymddiriedaeth, perthyn a pherfformiad.”

Gwyliwch/gwrandewch ar Jane yn trafod pwysigrwydd arferion caffael cynaliadwy ym mhennod tri o Podlediad The Power of Public Value.

Rhannu’r stori hon