Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn cefnogi prosiect newydd pwysig i helpu i ailadeiladu sector Addysg Uwch Wcráin

18 Rhagfyr 2023

Sut mae prifysgolion yn parhau i fod yn berthnasol ac yn datblygu i gyflawni rôl newydd mewn cymdeithas? Sut mae nodi tueddiadau allweddol y bydd y byd yn eu hwynebu yn y dyfodol a datblygu strategaethau nid yn unig i fynd i'r afael â heriau ond i’w croesawu? Dyma gwestiynau y mae'r rhan fwyaf o brifysgolion, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, yn eu gofyn i'w hunain, ac mae'n rhan hollbwysig o'r broses i arweinwyr Wcráin wrth iddynt gynllunio i adfer ac ail-greu eu gwlad.

Ddiwedd mis Hydref, ymunodd uwch-staff Prifysgol Caerdydd â British Council Wcráin a phenaethiaid addysg uwch Wcráin i rannu syniadau a phrofiadau a'u helpu i ddatblygu rhaglen arweinyddiaeth.

Mae'r rhaglen gyffrous hon, o’r enw Arweinwyr Trawsnewid Prifysgolion er Ail-greu Wcráin, yn cael ei harwain gan British Council Wcráin, Cronfa Llywydd Wcráin ar gyfer Addysg, Gwyddoniaeth a Chwaraeon a Gweinyddiaeth Addysg a Gwyddoniaeth Wcráin. Rydym yn gweithio gyda charfan fach o 30 o arweinwyr addysg uwch o chwe phrifysgol ar draws Wcráin.

Enillodd tîm Addysg Weithredol Ysgol Busnes Caerdydd, gyda chefnogaeth yr Uned DPP, dendr i weithio ar y rhaglen beilot. Mae’r Brifysgol yn cyfrannu drwy gyflwyno cryfderau a phrofiadau’r sector yn y DU i lywio trafodaethau a gwaith grŵp. Ymhlith y pynciau a gaiff eu trafod yn y sesiynau cyntaf mae sut rydym yn ymrwymo i'n cyfrifoldebau ym maes y genhadaeth ddinesig, gan gynnwys trin a thrafod ein heffaith ar ddatblygiad rhanbarthau a chymunedau lleol. Mae ein sesiynau’n cyd-fynd â gweddill y rhaglen, sy'n manteisio ar arbenigedd a phrofiad sefydliadau addysg uwch Wcráin.

Mae’r rhaglen yn cynnwys pedwar modiwl ac, yn rhan o bob un, bydd dwy sesiwn fore’n cael eu cynnal bob mis. Mae'r Athro Peter Maddon OBE, sy’n ymdrin â’r Dyfodol, yn gweithio ochr yn ochr â Wendy Larner, ein Rhag Is-Ganghellor newydd, wrth iddi arwain ein 'Sgwrs Fawr'. Mae hefyd yn defnyddio systemau’r Dyfodol i asesu tueddiadau a chanlyniadau tebygol, gan gynnwys sut i addasu i'r hyn sy'n debygol o ddigwydd. Soniodd yr Athro Madden am bwysigrwydd asesu'r adnoddau sydd gennych a deall sut i'w defnyddio i baratoi am y posibiliadau tebygol. Mae’r modiwlau sy’n dilyn yn canolbwyntio ar strategaeth a newid, arweinyddiaeth ac ymreolaeth a chyllid a phrosiectau.

Roedd y rhaglen beilot ar waith tan fis Chwefror 2024; yn dilyn y peilot cychwynnol hwn, y gobaith yw y bydd British Council Wcráin yn ei chyflwyno’n raddol i holl brifysgolion Wcráin yn y pen draw.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu rhaglen datblygu proffesiynol pwrpasol ar y cyd â’r Brifysgol, cysylltwch â’n tîm cyfeillgar i gael sgwrs gychwynnol:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus

Rhannu’r stori hon

Rydym yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau i ddatblygu a chyflwyno atebion dysgu pwrpasol, cost-effeithiol, perthnasol ac o ansawdd uchel.