Ewch i’r prif gynnwys

Staff yr Ysgol Busnes yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth

18 Rhagfyr 2023

Dr Hakan Karaosman and Angharad Kearse with Dean and Head of Cardiff Business School, Professor Rachel Ashworth (middle).

Bu i Dr Hakan Karaosman ac Angharad Kearse gael eu cydnabod am gyfraniad rhagorol am eu gwaith yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd 2023.

Cynhaliwyd y noson wobrwyo ar 16 Tachwedd 2023 yn Neuadd Fawr Undeb y Myfyrwyr, o dan arweiniad yr Athro Damian Walford Davies, y Dirprwy Is-ganghellor a Claire Sanders, Prif Swyddog Gweithredu.

Mae'r gwobrau blynyddol hyn yn gyfle i'r holl staff ddathlu llwyddiannau rhagorol. Enwebwyd 144 o unigolion a grwpiau ar draws 16 categori.

Llongyfarchiadau i'r enwebeion, y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol, a'r enillwyr. Dewch i gwrdd â staff Ysgol Busnes Caerdydd a gafodd eu cydnabod:

Dr Hakan Karaosman - Enillydd - Rhagoriaeth mewn Cynaliadwyedd Amgylcheddol

Ymchwilydd arobryn sydd â phrofiad rhyngwladol yw Hakan. Mae ei ymchwil yn ffocysu ar gynaliadwyedd cadwyn gyflenwi ffasiwn. Cafodd ei enwebu am fod yn llais blaenllaw ym maes cynaliadwyedd amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol.

Mae ei ymchwil wedi cael ei gydnabod gan y Cenhedloedd Unedig a’r Comisiwn Ewropeaidd fel un o’r prosiectau arloesol sy’n cael effaith. Mae ef wedi ymddangos yn y wasg gan gynnwys Forbes, The Guardian, Vogue Business, The Financial Times, a llawer mwy. Fe wnaeth Hakan draddodi areithiau cyweirnod ar wahanol lwyfannau dylanwadol, gan gynnwys TED, Wythnos Ffasiwn Milano, a'r Uwchgynhadledd Ffasiwn Fyd-eang.

Dyma’r hyn a ddywedodd Hakan am ei fuddugoliaeth: “Diolch, Prifysgol Caerdydd am ddyfarnu’r Wobr imi am Ragoriaeth mewn Cynaliadwyedd Amgylcheddol yn y Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd eleni. Llongyfarchiadau i bawb a enwebwyd! Mae ein cyfraniadau ni i gyd yn cydategu’i gilydd ac rydym mewn deialog gyson er mwyn inni allu newid pethau trwy ddefnydd o wyddoniaeth ac ymchwil yn offerynnau wrth gyflawni hyn.”

“Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o Ysgol Busnes Caerdydd sydd â gwerth cyhoeddus a phobl yn ganolog iddi. Diolch i chi gyd am fy ngrymuso i greu goblygiadau damcaniaethol, ymarferol a chymdeithasol o fewn amgylchedd sy’n ddiogel a chynhwysol.”
Dr Hakan Karaosman Lecturer in Logistics & Operations Management

Gwyliwch/gwrandewch ar bodlediad The Power of Public Value lle ym mhennod 2, mae Hakan yn trafod ei waith a'r cysyniad o’r ymgyrchydd academaidd.

Pennod 2: Yr academydd actif: ail-lunio'r diwydiant ffasiwn – Dr Hakan Karaosman

Angharad Kearse - Cyrhaeddodd y Rownd Derfynol - Seren Newydd, Aelodau o staff y Gwasanaethau Proffesiynol

Enwebwyd Angharad am ei chyfraniad rhagorol i’r tîm Addysg Weithredol yn Ysgol Busnes Caerdydd. Yn Swyddog Ymgysylltu Allanol, gwaith Angharad yn y bôn yw datblygu a gwella'r berthynas rhwng yr Ysgol Busnes a'r gymuned Allanol.

Ymhlith y gweithgareddau y mae hi wedi cymryd rhan ynddynt ydy’r prosiect Prifysgol Plant Caerdydd. Bwriad y prosiect yw rhoi cyfle i blant o ysgolion cynradd lleol wybod mwy am addysg uwch ac i’w helpu nhw â'u dyheadau i’r dyfodol. Gwnaeth y prosiect hwn greu adborth cadarnhaol sylweddol i'r Brifysgol a'r Ysgol Fusnes.

“Bu gweithio ar y cyd â disgyblion Ysgol Gynradd Windsor Clive ar seremoni raddio Prifysgol y Plant eleni yn brofiad hynod werth chweil, ac yna i gael fy nghydnabod am fy nghyfraniad wir yn golygu llawer iawn imi. Rydw i mor ddiolchgar am yr enwebiad, ac roedd hi’n fraint arbennig cael cynrychioli’r tîm Addysg Weithredol ar y noson.”
Angharad Kearse External Engagement Officer, Executive Education

Dyma a ddywedodd Damian Walford Davies, y Dirprwy Is-Ganghellor: "Ar draws 16 categori, roedd y cyfoeth o gyflawniadau oedd yn cael eu dangos yn destun llawenydd. Gall pob enwebai a'r holl enillwyr fod yn falch o'r ffaith iddynt gael eu henwebu gan eu cyfoedion, a oedd yn huawdl ac yn arnodi llwyddiannau, o rai sy’n cynnal yn dawel a rhai dramatig o drawsnewidiol."

Dyma a ddywedodd Claire Sanders, y Prif Swyddog Gweithredu: “Rwy'n edrych ymlaen at gyd-gynnal y seremoni wobrwyo hon bob blwyddyn. Braint yw gallu dathlu cymaint o gydweithwyr rhagorol a'r gwaith maen nhw'n ei wneud ar draws y Brifysgol. Llongyfarchiadau mawr i'r holl enwebeion a'r enillwyr am gynrychioli cymuned ein staff mor dda.”

Rhannu’r stori hon