Yr Ysgol Peirianneg yn sicrhau o gyllid i wneud ymchwil ar y cyd i’r broses cywasgu hydrogen yn y system drawsyrru genedlaethol
13 Rhagfyr 2023
Mae’r Ysgol Peirianneg yn falch o gyhoeddi ei bod wedi sicrhau grant gan Gronfa Arloesedd Strategol Ofgem i gynnal prosiect ymchwil arloesol gwerth £43.7 miliwn ym maes rhwydweithiau nwy hydrogen.
Nod yr ymchwil, a gaiff ei gwneud ar y cyd â'r Ganolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy ym Mhrifysgol Caerdydd, yw chwyldroi sut mae hydrogen yn cael ei gywasgu a’i ddefnyddio yn y system drawsyrru genedlaethol – cam hollbwysig i gyflawni amcanion sero net y llywodraeth.
Yn rhan o’r prosiect, bydd rhwydwaith nwy gwasgedd uchel ar raddfa micro sy’n cael ei bweru gan hydrogen yn cael ei greu. Bydd system o’r fath yn defnyddio proses gywasgu arloesol, gan fanteisio i’r eithaf ar dyrbin nwy wedi’i ail-bwrpasu a’i addasu’n arbennig ar gyfer y tanwydd newydd.
Yn rhan o gonsortiwm y prosiect mae Prifysgol Caerdydd, National Gas Transmission, Siemens Energy, DNV, Cullum Detuners, Northern Gas Networks, SGN a Premtech.
Mae Ofgem yn dyfarnu’r cyllid fesul tri cham. Yn rhan o’r cam cyntaf, mae’r prosiect yn cael ei asesu o ran ei ymarferoldeb, tra bod yr ail gam yn gofyn am waith cynllunio a datblygu manwl. Yn rhan o’r cam olaf, sef Beta, mae’r ffocws ar greu arddangoswr. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymwneud â phrosiectau eraill y Gronfa Arloesedd Strategol yn y gorffennol ar y cyd â National Gas Transmission, ond dyma’r prosiect cyntaf i symud ymlaen i gam Beta.
Yn rhan o’r tîm ymchwil yn yr Ysgol Peirianneg ac yn cyfrannu at lwyddiant y prosiect hwn fydd Dr Daniel Pugh, yr Athro Phil Bowen a’r Athro Richard Marsh, yn ogystal ag ymchwilydd penodedig a myfyriwr PhD.
Dywedodd Prif Ymchwilydd y prosiect, Uwch-ddarlithydd Daniel Pugh: “Mae’r prosiect hwn yn gyfle cyffrous i wneud cynnydd hollbwysig er mwyn gallu defnyddio hydrogen yn y system drawsyrru genedlaethol – hanfodol i gyrraedd targedau sero net. Bydd y Ganolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio gyda phartneriaid y prosiect i helpu i ddatblygu ac ail-bwrpasu asedau ffisegol presennol ar gyfer y tanwydd newydd a heriol hwn. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y prosiect yn datblygu, a hoffen ni ddiolch i Ofgem am y cyllid .”
Dywedodd Rheolwr Prosiectau FutureGrid, Tom Neal: “Mae’r cyllid hwn yn allweddol i helpu FutureGrid i ddangos bod hydrogen yn opsiwn diogel ac ymarferol ar gyfer dyfodol cyflenwad ynni’r DU. Mae’r adnodd hwn nid yn unig yn fwy cynaliadwy, ond hefyd yn lanach na ffynonellau tanwydd traddodiadol.” Mae’r ymchwil hon yn gam sylfaenol ar daith y system drawsyrru genedlaethol i sero net.”
Dechreuodd y prosiect ym mis Medi 2023. Bydd yn cael ei gynnal dros 40 mis ac yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2026.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan ddefnyddwyr rhwydweithiau ynni drwy Gronfa Arloesedd Strategol Ofgem, sef rheoleiddiwr ynni annibynnol y DU. Mae’r gronfa hon yn cael ei rheoli ar y cyd ag Innovate UK.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy.