Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigwyr yn trin a thrafod ymchwil arloesol ym maes technoleg ariannol

7 Rhagfyr 2023

Daeth Cynhadledd Technoleg Ariannol Caerdydd â mwy na 100 o arbenigwyr ynghyd i drafod ymchwil arloesol ym mhob un o feysydd technoleg ariannol.

Ysgol Busnes Caerdydd oedd wedi trefnu a chynnal y digwyddiad ar 8 a 9 Tachwedd 2023.

Cafwyd anerchiad agoriadol gan yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd. Wedyn, gosododd Cyd-gadeirydd y Gynhadledd, yr Athro Arman Eshraghi, y naws ar gyfer deuddydd o drafodaethau cynhyrchiol am dechnoleg ariannol.

Aeth y cynadleddwyr ati i ddadansoddi 55 o bapurau academaidd gan ymchwilwyr o ledled y byd - Canada, UDA, y DU, yr Iseldiroedd, Ffrainc, yr Almaen, y Swistir, Lwcsembwrg, yr Eidal, Singapôr, Hong Kong, Tsieina ac Awstralia.

Cymerodd y sawl ddaeth ynghyd ran mewn llu o sesiynau rhyngweithiol a oedd yn cwmpasu rhychwant eang technoleg ariannol. Ymhlith y sesiynau roedd cyflwyniadau o bapurau academaidd a sesiynau holi ac ateb, ac yn sgil roedd cyfnewid gwybodaeth yn digwydd mewn ffordd ddeinamig. Dyma rai o’r themâu pwysig: dysgu peirianyddol a chyllido torfol, preifatrwydd a sgamiau, masnachu meintiol, banciau a benthyca, blockchain, asedau crypto, arloesi a chynaliadwyedd. Yn y gynhadledd hefyd roedd cinio gala.

Ymhlith y prif siaradwyr y gynhadledd roedd:

  • Bruno Biais, Athro Cyllid yn HEC Paris
  • Raghavendra Rau, Athro Cyllid Syr Evelyn de Rothschild yn Ysgol Busnes Judge Caergrawnt
  • Alberto Rossi, Athro Cyllid ym Mhrifysgol Georgetown
  • Wei Xiong, Athro Economeg ym Mhrifysgol Princetown

Roedd y prif areithiau’n mynd i'r afael ag ystod o bynciau sydd o bwys mawr, gan gynnwys gallu AI i weddnewid y sector cyllid, pryderon o ran preifatrwydd data, y canlyniadau a ddaw yn sgil cryptoarian, a'r heriau amlwg o ran dyfodol cynghori gan robotiaid.

Cafodd y gynhadledd ei chyd-gadeirio gan yr Athro Arman Eshraghi, yr Athro Qingwei Wang a Dr Yizhi Wang. Dyma’r hyn a ddywedon nhw: “Roedden ni wrth ein boddau’n cael cynnal y gynhadledd a ddaeth â rhai o academyddion blaenllaw'r byd ynghyd i drafod technoleg ariannol, sef maes sy'n bythol ehangu. Gan mai dyma gynhadledd academaidd fwyaf blaenllaw’r DU ym maes technoleg ariannol, roedd yn cynnig fforwm deinamig i ymchwilwyr ledled y byd drafod y tueddiadau a'r heriau diweddaraf yn y maes hwn.”

Rhannu’r stori hon