Ewch i’r prif gynnwys

Cinio blynyddol Cymdeithas y Gyfraith yn dathlu cynllun pro bono Caerdydd

7 Rhagfyr 2023

Ukraine Project Cymru award winners

Mae gwasanaeth cyngor cyfreithiol am ddim i bobol Wcráin wedi ennill y Fenter Mynediad Gorau i Gyfiawnder yng Nghinio Cymdeithas y Gyfraith Caerdydd a'r Cylch eleni.

Sefydlwyd Prosiect Wcráin Cymru, rhan o uned pro bono Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, ym mis Tachwedd 2022 yn dilyn goresgyniad Rwsia o'r Wcráin ym mis Chwefror yr un flwyddyn. Ers i'r rhyfel ddechrau, mae dros 170,000 o bobol Wcráin wedi symud i'r DU gyda llawer yn profi materion cyfraith mewnfudo a lloches eang.

Mae Prosiect Wcráin Cymru yn ymateb unigryw i'r sefyllfa hon yng Nghymru ac mae'n bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru a'r elusen leol Asylum Justice. Mae'r prosiect yn cynnig cynllun cyngor am ddim ar fewnfudo i unigolion a theuluoedd sydd wedi'u lleoli yng Nghymru sydd wedi ffoi o'r Wcráin ac yn cael ei arwain dan ofal darlithydd y gyfraith a chyfreithiwr mewnfudo a lloches cymwys, Jen Morgan yn. Cefnogir Jen gan y Cydlynydd Prosiect Suzy McGarrity, y Gwirfoddolwr Paraglegal Emily Davis a 18 o fyfyrwyr y gyfraith.

Wrth siarad am y prosiect, dywedodd Tom Black, Partner, Eversheds Sutherland (a noddodd y wobr), “Mae enillydd eleni yn gydweithrediad yr oeddem yn teimlo ei fod yn cyflawni angen cymdeithasol pwysig iawn. Ymddengys ei fod wedi symud yn gyflym iawn mewn ymateb i'r rhyfel yn yr Wcráin ac mae wedi bod o fudd i nifer sylweddol o bobl mewn cyfnod byr o amser. Mae hefyd yn creu cyfleoedd i wirfoddolwyr myfyrwyr gael profiad gwaith gwerthfawr yn y sector cyfreithiol.”

Canmolodd yr Athro Julie Price, Pennaeth Pro Bono yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth waith y prosiect a dywedodd, “Rydym wrth ein bodd drwy weithio gyda Phrosiect Wcráin Cymru bod ein myfyrwyr yn gallu cael profiad o fod yn rhan o'r ymateb rheng flaen i argyfwng byd go iawn. Maent wedi cael mewnwelediad ar sut mae polisi mewnfudo yn effeithio ar fywydau rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, a pha mor bwysig yw bod pobl yn y sefyllfa hon yn cael y cyngor cyfreithiol cywir.”

Os ydych yn Wcreineg / Wcreinaidd sydd angen cymorth ar faterion mewnfudo ers cyrraedd Cymru, ewch i dudalen Prosiect Wcráin Cymru ar ein gwefan pro bono.

Cyfranogwyr Prosiect Wcráin Cymru - Rhes gefn (Chwith-Dde) Ben Cocker, Jacob Reynolds, Darrmen Devan, Luccia Owen, Gabby Wright, Ellie Dando, Charlotte Allison, Lyudmyla Bernyk, Marcela De Camargo. 
Rhes flaen (Chwith-Dde) – Suzy McGarrity, Amelia Parre, Sophia McKenna, Madison Tully, Holly Jarvis a Jen Morgan. 

Mae Poppy Adams, Devesh Dhake, Cara Wright, Kathy Carter, Isabel Horsler, Tim Lok Ma, Milly Turner ac Emily Davis yn rhan o’r prosiect ond nid ydynt yn ymddangos yn y llun o’r grŵp.

Rhannu’r stori hon